Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Fflur Dafydd yn ennill gwobr goffa Daniel Owen am ei nofel 'Y Llyfrgell'

Wed, 05 Aug 09 12:22:00

Cyhoeddwyd ddoe ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol mai yr awdures o Landysul Fflur Dafydd oedd ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Ennillodd Fflur y wobr o £5,000 am ei nofel ddiweddaraf Y Llyfrgell, nofel ffantasi wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol.


 


Roedd beirniaid y wobr yn gytun fod y nofel yn ddarn o waith dychanol a heriol byddai'n tynnu blewyn o drwyn sawl darllenydd ac yn annog trafodaeth am ddyfodol ein treftadaeth cenedlaethol.


 


Yn y nofel, mae Fflur yn portreadu byd lle mae merched wrth lyw y llywodraeth, mae gan wleidyddion ddylanwad amdwyol dros y celfyddydau, ac mae technoleg newydd yn bygwth bodolaeth y llyfr, a'r awdur hefyd. Cafodd yr awdur ei hysbrydoli gan y Llyfrgell pan roedd hi yno yn cwblhau ei doethuriaeth ar R S Thomas yn 2004, wrth iddi ymweld â’r Llyfrgell yn ddyddiol am gyfnod o dri mis.


 


“Ro’n i’n ffeindio’n hun yn dychmygu pob math o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y Llyfrgell yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith! Mae ‘na rhywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped coch, y pileri gwynion, a’r cysyniad fod holl gyfrinachau a hanes y genedl wedi ymgasglu mewn un man. Dyma un o’r sefydliadau mwyaf pwerus ac arwyddocaol sydd gennym yng Nghymru – ond eto dyma’r lle diwethaf y buasai rhywun yn disgwyl terfysg o unrhyw fath, gan ei fod yn le mor dawel a thangnefeddus – a’r ddeuoliaeth honno sy’n fy niddori.”


 


Disgrifiodd John Rowlands, un o feirniaid y wobr goffa fod Fflur yn “awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a’n gogleisio ar ein ail ddarn o lenyddiaeth sy’n bleser pur.” Dwedodd Rhiannon Lloyd, hefyd yn feiriniad ar y wobr, “Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel ac y mae ynddi stori ardderchog.”


 


Wedi ei gosod yn y flwyddyn 2020, mae’r nofel yn dilyn criw o gymeriadau yn ystod un diwrnod dramatig pan fo dwy lyfrgellwraig arfog yn meddiannu’r Llyfrgell


 


Yn ól Andrew Green, “Mae’r nofel yma yn torri tir newydd, y nofel gyntaf i’w gosod yn gyfangwbl yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn adeilad eiconig i Gymru, nid yn unig oherwydd y penserniaeth clasurol ond oherwydd y casgliadau unigryw hanesyddol sydd o fewn yr adeilad. Mae’r Llyfrgell yn falch bod nofelydd gyda llais mor unigryw fel Fflur Dafydd wedi dewis gosod ei nofel ffantasi yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gobeithiwn na fydd ei harolygon am ddyfodol llyfrgelloedd yn 2020 yn dod i fodolaeth.”


 


Magwyd Fflur Dafydd yn ardal Llandysul. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ennill doethuriaeth am ei hastudiaeth o waith R S Thomas ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn darlithio yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.


 


Daeth i’r brig mewn sawl cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 2006.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012