Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

David Hurn prif siaradwr gwadd Gŵyl Lens

Tue, 11 Aug 09 12:31:00

David Hurn. Hawlfraint Andrew SpearinMae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cyhoeddi mai’r ffotograffydd Asantiaeth Magnum, David Hurn, yw un o brif siaradwyr gwadd Gŵyl ffotograffeg Lens eleni. Mae’r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener 20 Tachwedd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.


 


Mae Gwyl Lens bellach yn ei 5ed blwyddyn ac wedi denu siaradwyr gwadd megis Philip Jones Griffiths a Rhodri Jones i’r Llyfrgell.


 


Ganwyd David Hurn, o dras Gymreig, yn Redhill, Surrey. Cychwynnodd y ffotograffydd hunanaddysgedig ar ei yrfa fel cynorthwy-ydd yn y Reflex Agency yn 1955. Tra’n ffotograffydd annibynnol gwnaeth enw iddo’i hun wrth groniclo’r chwyldro yn Hwngari yn 1956. Mi fydd ei sgwrs yn edrych yn ôl dros ei yrfa, o hanner canrif fel ffotograffydd. Yn 2000 cyhoeddodd ei lyfr Land of My Fathers, llyfr ffotograffau ar Gymru sy’n adlewyrchiad o steil creadigol Hurn.


 


Lleolir Gŵyl LENS yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, sydd yn gartref i gasgliad ffotograffig mwyaf Cymru (dros 800,000 o ffotograffau). Mae'r casgliad yn cynnwys y llun Cymreig cynharaf, sef daguerreoteip o Gastell Margam a dynnwyd gan Calvert Jones yn 1841.


 


 


Mae’r siaradwyr eraill sydd wedi eu sicrhau ar gyfer yr Ŵyl yn cynnwys Keith Morris, y ffotograffydd o Aberystwyth, Russell Roberts o Brifysgol Casnewydd a Dr Paul Bevan a Jane Henley, dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Yn ôl Arwel Jones, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus, ‘Mae rhaglen Lens eleni yn addo bod yn achlysur na ddylid ei golli. Mae David Hurn yn cael ei adnabod yn rhyngwladol ers blynyddoedd fel un o brif ffotograffwyr croniclo Prydain, ac rydyn ni’n hynod o gyffrous ei fod am ymuno gyda ni ar gyfer Lens eleni gan ychwanegu at enw da cynyddol yr ŵyl ffantastig hon.’


 


Am wybodaeth pellach


www.llgc.org.uk/lens09

Tocynnau £20 (£14 NUS) yn cynnwys cinio


 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson
01970 632 534
medi.jones-jackson@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012