Fri, 14 Aug 09 16:32:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lanlwytho podcasts newydd i’w gwefan. Wedi eu recordio yn 2007 ar gyfer arddangosfa canmlwyddiant y Llyfrgell, mae rhai o gyn aelodau staff y Llyfrgell, Eluned Rees a Cledwyn Fychan, yn trafod eu profiadau o weithio yn y sefydliad. Hefyd wedi eu cynnwys mae atgofion Delwyn Tibbott, mab Gildas Tibbott, a oedd yn gweithio yn y Llyfrgell yn ystod yr ail ryfel byd. Roedd ganddo ef gyfrifioldeb dros warchod ogof cudd y Llyfrgell!
I wrando ar y podcasts ymwelwch â’r dudalen podcasts