Tue, 18 Aug 09 08:15:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyhoeddi heddiw bod mynediad am ddim ar gael i gyfrifiad 1911 i’w darllenwyr. Bellach mae cyfrifiadur yn Ystafell Ddarllen y De sydd yn galluogi mynediad am ddim i’r cyfrifiad. Gall darllenwyr y Llyfrgell gasglu tocyn o'r ddesg ymholiadau sydd yn rhoi mynediad ½ awr iddynt i’r peiriant a’r gallu i brintio am ddim. Os nad ydych yn ddarllenydd yn y Llyfrgell yna gallwch gael tocyn darllen arlein.
Yr Archifdy Gwladol, mewn cydweithrediad â findmyPast.com, sy'n gyfrifiol am y cynllun hwn i ddarparu mynediad i'r cyfrifiad mewn 7 o ganolfanau yn Lloegr a Chymru.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ymwelwch â safle'r Archifdy Gwladol neu gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg.
Am ragor o wybodaeth am wasanaeth y Llyfrgell cysylltwch ag Ystafell Ddarllen y De ar 01970 632 821 neu drwy holi@llgc.org.uk