Fri, 18 May 07 17:07:00
Dau o brif sefydliadau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am gyflwyno Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau eleni. Mewn seremoni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 18 Mai cyflwynir y Goron i’r Eisteddfod a’r Orsedd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y ddau sefydliad ac fel arwydd o’u gwerthfawrogiad o gyfraniad yr Eisteddfod i fywyd diwylliannol Cymru.
Sefydlwyd y Llyfrgell a’r Amgueddfa Genedlaethol drwy Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907 a phenderfynwyd y byddai noddi’r Goron yn yr Eisteddfod, a gynhelir yn Yr Wyddgrug eleni, yn ffordd deilwng o ddangos gwerthfawrogiad y ddau sefydliad i bwysigrwydd yr Eisteddfod i fywyd Cymru. Cedwir archifau’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Llyfrgell gan gynnwys beirniadaethau cystadlaethau’r Goron a’r Gadair, portreadau o gyn-archerwyddon, a rhai cadeiriau eisteddfodol. Cedwir hefyd archif Iolo Morganwg, sefydlwr Gorsedd y Beirdd
Trwy gyd-ddigwyddiad ffodus cynhaliwyd cyfarfod i lansio ymgyrch dros Lyfrgell Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1873. Lleoliad yr Eisteddfod honno? Yr Wyddgrug!
Dyluniwyd y Goron gan y gemydd o Lanelli, Mari Thomas. Ysbrydolwyd hi gan ddalennau llyfrau sy’n cynrychioli casgliad y Llyfrgell Genedlaethol gyda darnau aur a marciau yn adlewyrchu mwclis Lunula o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd yn Llanllyfni - un o’r darnau gemwaith hynaf o Gymru a gedwir yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae Coron Mari wedi ei chreu o 84 darn arian ac aur wedi eu bachu a’u rhybedu i’w gilydd. Cymerodd y gwaith sawl mis i’w gwbwlhau.
Dyluniodd Mari goron Eisteddfod Abertawe y llynedd hefyd ac enillodd Fedal Aur y gystadleuaeth Celf a Chrefft yn Eisteddfod 2003.
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i gyflwyno’r Goron fel rhan o’n gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr Eisteddfod i fywyd Cymru ac fel arwydd o’r berthynas hir a ffrwythlon sydd wedi bod rhyngom a’r Eisteddfod ers blynyddoedd.’
Dywed Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru, ‘Sefydliadau cenedlaethol yw sylfaen hunaniaeth genedlaethol unrhyw wlad. Mae’n briodol iawn bod tri o sefydliadau cenedlaethol amlycaf Cymru yn cydweithio yn y modd hwn,’ medd Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.
‘Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn hynod o falch bod y Goron yn cael ei rhoi ym mlwyddyn y canmlwyddiant gan y Llyfrgell a'r Amgueddfa ac yn dymuno diolch am hyn. Ein gobaith yw y bydd enillydd a bod y Goron yn cael cartref. ‘Copaon’ oedd y teitl a roddwyd ar gyfer y beirdd daeth 29 ymgais i law. Mae cysylltiad agos wedi bodoli rhwng y tri sefydliad ers amser maith a dymuniad yr Eisteddfod yw gweld y cysylltiad hwnnw yn parhau ac yn cryfhau yn ystod yr ail ganrif o fodolaeth. Penblwydd hapus iawn i'r Llyfrgell a'r Amgueddfa'.
Roedd dylunydd y Goron hefyd yn falch iawn, ‘Mae’n anrhydedd dylunio coron yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto. Gyda chasgliadau mor werthfawr o hanes a threftadaeth Cymru, cynnigiodd gasgliadau’r Amgueddfa a’r Llyfrgell ysbrydoliaeth wrth i mi wynebu’r her fawr wrth gynllunio’r gwaith.’
Cyflwyno’r Goron:
2.30pm ddydd Gwener 18 Mai
Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Am Ragor O Wybodaeth A Lluniau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 sij@llgc.org.uk
Dolenni:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: www.llgc.org.uk
Amgueddfa Cymru: www.aocc.ac.uk/cy/hafan/
Eisteddfod Genedlaethol: www.eisteddfod.org.uk
Mari Thomas: www.marithomas.com
Mwclis Lunula: www.amgueddfacymru.ac.uk/walespast/article.shtml