Mon, 24 Aug 09 10:36:00
70 mlynedd ar ôl i Brydain fynd i ryfel â'r Almaen Naziaidd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dadorchuddio copïau arlein o'r Cymro, sef cylchgrawn â gynhyrchwyd gan garcharorion rhyfel Cymraeg yn ystod eu cyfnod yn gaeth yng ngwersyll rhyfel Stalag IVB yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Aelodau o glwb ‘Cymric’ gwersyll Stalab IVB, ger Mühlberg yn yr Almaen gynhyrchodd y cylchgrawn rhwng Gorffennaf 1943 a Rhagfyr 1944, dan lygad gofalus y golygydd William John Pitt o Dreharris (1920-1988), a adnabuwyd fel ‘Archie’. Er bod rhannau helaeth o gylchgrawn y Cymro yn Saesneg, mae 2 dudalen o’r cyfrolau yn cynnwys Congl Gymreig.
Tair cyfrol o'r Cymro sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, a chopi arbennig ar gyfer y Nadolig a thri atodiad. Crëwyd y cylchgronau o lyfrau ymarfer ysgol, i gyd wedi eu hysgrifennu ac addurno â llaw gyda pha bynnag inc roedd y tîm golygyddol yn gallu cael gafael arno yn y gwersyll, gan gynnwys cwinîn o’r ysbyty, gan ludo’r tudalennau i lawr gyda chawl wedi ei furman o’u dognau rhyfel. Dim ond un copi o bob rhifyn oedd yn cael ei greu a hwnnw yn cael ei gylchredeg o gwmpas y gwersyll neu ei ludo ar wal un o gabannau'r gwersyll i’w ddarllen yn bellach gan y criw Cymraeg.
Roedd gan bob caban pren gynrychiolydd a oedd yn gyfrifol am drosglwyddo defnydd ac erthyglau i’r golygydd William John Pitt. Roedd Pitt yn awyddus iawn i filwyr adrodd yn ôl unrhyw hanes o adref o'u llythyrau personol, er mwyn cadw moral y gwersyll yn uchel. Yn y cylchgronau mae’n ategu, ‘comb those letters for news from home. The rest of the club wants to know it as well.'
Roedd y cylchgronau yn cynnwys newyddion ac erthyglau o ddiddordeb i’r milwyr Cymreig, megis erthyglau ar yr actorion Emlyn Williams a Stanley Baker ar bocsiwr Charlie Bundy. Ceir hefyd ynddynt erthyglau ar fytholeg Gymreig megis Gelert gan Dai Davies, a stori Arthur gan Emrys Evans, ynghyd â hanes gwahanol ardaloedd o Gymru megis Pumlumon gan Idwal Pugh a Phenrhyn Llŷn.
Mae’r cylchgronau yn rhoi golwg unigryw ar fywyd tu fewn i wersyll Stalag IVB. Mae'r cylchgronau yn cynnwys penawdau megis ‘St. George beats the dragon again’ wrth i dîm Cymru golli 3-0 i Loegr ar faes pêl-droed oedd fwy addas i arnofio arno na chwarae pêl-droed yn ôl adroddiad y gêm.
Gweler hefyd yn y cylchgronau fod gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig, a chôr meibion wedi ei sefydlu gyda 45 aelod er mwyn ‘awakened slumbering memories of Wales’.
Yn ôl D. T. Davies, carcharor rhyfel yng ngwersyll rhyfel Stalag XVIII yn Wolfsburg, Awstria, ymysg gwesylloedd eraill
‘Roedd rhai carcharorion yn creu cylchgronau, eraill yn dysgu offerynnau a chynnal cyngherddau. Er, hyd y gwn i doedd dim cylchgrawn yn Stalag XVIII, ond rwyf yn cofio bobl yn dysgu offerynnau.’
Yn ôl Morfudd Bevan-Jones o’r Llyfrgell Genedlaethol,
‘Mae’r cylchgronau yn rhoi cipolwg inni o fywydau'r milwyr a oedd yn garcharorion rhyfel yng ngwersyll Stalag IVB. Mae’n anhygoel meddwl bod y milwyr wedi medru creu cylchgronau mor ddeniadol a difyr dan amodau hynod o anodd. Mae’r cylchgronau yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw hi i gofio'r rôl ganolog y chwaraeodd milwyr Cymreig wrth frwydro yn ystod yr Ail Ryfel Byd.’
‘Mae’r cylchgronau ‘Cymro’ yn adlewyrchu pa mor bwysig oedd hunaniaeth Gymreig i’r milwyr. Er eu bod yn bell o’u mamwlad, trwy ysgrifennu am newyddion ac erthyglau yn ymwneud â Chymru Fach roeddent yn medru teimlo yn agosach at adref. Blaenoriaeth carcharor mewn gwersyll rhyfel oedd goroesi - ac mewn ffordd mae’r cylchgronau yma hefyd yn oroeswr o’r cyfnod ac rydym yn falch iawn bod copïau gwreiddiol o’r cylchgronau oddi fewn y Llyfrgell Genedlaethol a bod y copïau yma i’w gweld y nawr ar-lein.’
Cyrhaeddodd byddin yr Undeb Sofietaidd y gwersyll yn Ebrill 1945, roedd dros 30,000 o ddynion yn y gwersyll, ac oddeutu 7,250 o'r rhain yn Brydeinwyr. Bu farw oddeutu 3,000 o garcharorion yn y gwersyll, yn bennaf o’r diciâu. Mae cofeb i garcharorion Stalag IVB yng Neuburxdorf, 8km i’r Gogledd Ddwyrain o Mühlberg.
Dolen
Gwybodaeth Bellach
Sion Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk