Fri, 11 Sep 09 10:23:00
Malcome Pryce, Rhodri Morgan, Fflur Dafydd, Meredydd Evans, cyngherddau, lansiadau a sgyrsiau am hanes teulu ... dyma rai o’r bobl a’r digwyddiadau fydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth dros y misoedd nesaf.
Yn ogystal â chyngherdd gan y parti gwerin poblogaidd o Fladwyn, Parti Cut Lloi, ceir noson o gerddoriaeth ar y pigorn a’r ffidil gan Ceri Rhys Matthews a Christine Cooper. Bydd y nofelydd a’r gantores, Fflur Dafydd, yn cynnal noson yn y Llyfrgell a ceir sawl lansiad arddangosfa a sgwrs oriel. Y Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC, fydd yn traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig a cofiwch hefyd am Lens 5 – Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera fydd yn cynnwys cyflwyniadau gan ffotograffwyr adnabyddus megis David Hurn, Keith Morris a Russell Roberts.
Cymrwch gip o'r hyn sydd ymlaen yn ein rhaglen ddigwyddiadau, neu ewch draw yn syth i archebu tocyn arlein. Gallwch gysylltu â ni am gopi print o'r rhaglen ddigwyddiadau. Mae rhywbeth at ddant pawb yn y Llyfrgell!
Am gopi print, cysylltwch ag
Emyr Lloyd Jones, emyr.jones@llgc.org.uk