Thu, 17 Sep 09 11:34:00
Ddydd Gwener 18 Medi bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn ailagor Ystafell Ddarllen y Gogledd, yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r ystafell ysblenydd hon a agorwyd yn 1916 wedi ei thrawsffurfio i groesawu’r newidadau mewn arferion darllen – gan gynnwys lle ar gyfer pobl i siarad a thrafod eu gwaith!
Dyma’r ystafell ar gyfer darllen rhai o’r 5 miliwn o lyfrau sydd yng nghasgliad anferth y Llyfrgell yn ogystal â darllen paprau newydd, cylchgronnau a chofnodlion (gan gynnwys prif bapurau newydd Llundain yn ogystal â holl rai Cymru).
Yn ogystal â phresenoldeb y Gweinidog mae’r Llyfrgell yn freintiedig i dderbyn cerdd wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan y Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke. Rhyddheir fideo arbennig i hyrwyddo’r ystafell ar ei newydd wedd ar ein gwefn, ein sianel YouTube ac ar ein tudalen Facebook.
Ail-luniwyd yr ystafell 60m o hyd gan 20m o led gyda chyllideb o £754,000 gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r gwaith pensaerniol gan Gwmni James Jenkins Thomas wedi rhannu’r ystafell yn nifer o ardaloedd gan gynnwys 5 ystafell astudio lle mae modd i ddefnyddwyr drafod syniadau gyda chydweithwyr. Ceir hefyd byrddau pwrpasol ar gyfer darllen deunydd electronig ac ardal ddarllen fwy traddodiadol ar gyfer astudio llyfrau a phapurau newydd. Mae’r lolfa ddarllen ymlaciol yn cynnig golygfa hyfryd dros Fae Ceredigion ac fel yng ngweddill yr ystafell, ceir mynediad am ddim yma i rwydwaith di-wifr (wi-fi) y Llyfrgell. Canolbwynt yr ystafell ddarllen yw'r ddesg ymholiadau newydd, ac mae staff o hyd wrth law i roi cyngor a chymorth i ddefnyddwyr.
Mae’r Llyfrgellydd, Andrew Green, yn falch iawn o’r ystafell ar ei newydd wedd,
‘Mae’r Llyfrgell wedi buddsoddi llawer o arian ac amser gyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad mewn gwaith digido. Ond, roeddem yn teimlo fod yn rhaid i ni hefyd ddiweddaru ein gwasanaeth bersonol yma o fewn adeilad y Llyfrell i’n darllenwyr. Mae’r cynllun newydd yn cydnabod y gwahanol ffyrdd a rhesymau sydd gan bobl heddiw dros ddefnyddio casgliadau’r Llyfrgell a bydd yn apelio at academwyr, myfywyr a darllenwyr hamdden. Mae’r ystafell hefyd yn leolaid delfrydol ar gyfer ateb cwestiynau personol ac arbenigol gan staff y Llyfrgell Genedlaethol.’
Dywedodd Alun Ffred Jones,
‘Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o brif sefydliadau diwylliannol ac addysgiadol Cymru ac yn cael ei chydnabod fel canolfan ymchwil o bwys rhyngwladol. Bydd yr ystafell ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r defnyddwyr i elwa o gasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.’
Bydd Agoriad Swyddogol Ystafell y Gogledd am 12.30 pm ddydd Gwener 18 Medi 2009. Ceir cerddoriaeth gan Bedwarawd Taliesin o 12.00 pm ymlaen. Llywyddir y digwyddiad gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Am wybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk
Dolenni
Fideo Ystafell Ddarllen y Gogledd ar ei newydd wedd
In the Reading Room
You scan the stream, silver-eyed as a heron
searching the surface for what might betray
a halt in the flow, pentameter’s delay,
a master’s faded words, his lexicon.
Before you, found in an old book
marking a page, a longhand manuscript.
Look, where the knib unloaded ink and dipped
and rose again, leaving a blot on the downstroke,
writing by candlelight in another century,
wind in the chimney, maybe, the pen’s small sound.
You write: ‘Anonymous. Date a mystery.
Some words illegible. No signature found.’
Yet the poem sings in your mind from the silent archive
and all the dead words speak, aloud, alive.
Gillian Clarke
Bardd Cenedlaethol Cymru
Ar achlysur agoriad swyddogol Ystafell Ddarllen y Gogledd ar ei newydd wedd, 18 Medi 2009