Fri, 25 Sep 09 14:21:00
Ar 17 Hydref 2009 bydd rhai o sgwennwyr natur gorau Prydain ym Machynlleth. Byddant yno ar gyfer gŵyl undydd newydd i ddathlu a chofio gwaith y naturiaethwr a'r sgwennwr Bill Condry. Mae'r siaradwyr yn amrywio o Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, i'r darlledwr a'r canwr Mike Harding. Y Guardian yw Partner Cyfryngol yr ŵyl ac mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Academi a'r Llyfrgell Genedlaethol, cartref archif bersonol Bill Condry.
Mae'r ŵyl, a gynhelir yn y Tabernacl, yn dilyn noson lwyddianus llynedd i nodi 10 mlynedd ers marw Bill Condry.
Bu Bill Condry yn cyfrannu i golofn Country Diary y Guardian am dros 40 mlynedd a bydd John Vidal, Golygydd Amgylchedd y Guardian yn cadeirio sesiwn agoriadol yr ŵyl ac yn trafod y golofn hirhoedlog yma gyda dau sydd yn cyfrannu iddi heddiw – Paul Evans sydd yn disgrifio yr ardal o amgylch ei gartref yn Wenlock Edge, a Jim Perrin sydd wedi cyfrannu'r dyddiaduron o Gymru yn dilyn marwolaeth Bill Condry.
Mae'r rhai sydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl mor amrwyiol â'r tirlun a oedd mor annwyl gan Bill. Bydd barddoniaeth a natur yn cael sylw, gyda Ian Gregson yn canlobwyntio ar waith y bardd Americanaidd, Mary Oliver. Bydd hefyd darlleniadau a thrafodaeth dan ofal Jon Gower gyda Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, Dr Damian Walford Davies o'r Adran Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Ian Gregson. Daw'r prynhawn i ben gyda'r darlledwr Mike Harding yn trafod ei siwrnau o fod yn blentyn ar strydoedd carregog Manceinion i'w dy yng Ngorllewin Iwerddon a'i gariad at lecynnau gwyllt y byd.
Traddodir Darlith Flynyddol Bill Condry ar y thema Natur a'r Traddodiad Cymreig gan y bardd Gwyn Thomas. Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi yn Saesneg.
Gyda'r nos bydd Cameron McNeish, sgwennwr, darlledwr a golygydd y cylchgrawn The Great Outdoors yn rhoi sgwrs a chyflwyniad gweledol o'r enw A Wilderness World.
“Gwnaeth tirlun a phobl Cymru argraff ddofn ar Bill Condry fel y gwnaeth ei lyfrau a'i erthyglau ar ei filoedd o ddarllenwyr ffyddlon. Mae Gŵyl Condry felly yn ddathliad o waith Bill ac hefyd o'r tirlun byw yma sydd mor wych a mor frau. Mae Machynlleth, prifddinas hanesyddol Cymru, yng nganol tirlun mor awrywiol yn leoliad delfrydol ar gyfer y digwyddiad arbennig yma,” meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chadeirydd un o sesiynnau'r ŵyl.
Rhaglen yr ŵyl (ar gael yn Saesneg yn unig)
Gellir archebu tocynnau trwy siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
01970 632 548 www.llgc.org.uk/drwm
neu'r Tabernacl: 01654 703 355
Gwybodaeth bellach
Sara Branch, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 01970 632 839
Sian Northey: 01766 522 765

Nodiadau i Olygyddion:
Ganwyd William Moreton Condry (1918 – 1998) ym Myrmingham, ond er pan yn ifanc roedd wedi gwirioni â byd natur Cymru. Yn gynnar yn ei yrfa roedd mewn cysylltiad â Ronald Lockley,y West Wales Field Society a chanolfan y Field Studies Council yn Dale Fort. Roedd yn olygydd y cylchronnau Field Notes a Nature in Wales, ac ynghŷd â'i wraig Penny, ymunodd â Phwyllgor y Barcud a oedd newydd ei sefydlu. Bu mewn cysylltiad am amser hir gyda'r Adarfa a'r Enlli, ac yn 1969 cychwynodd ar ei waith fel warden cyntaf gwarchodfa natur yr RSPB yn Ynys-hir ger Machynlleth. Yn ogystal a'i waith yn y maes roedd yn brysur yn darlithio, darlledu, mynychu pwyllgorau ac ysgrifennu.
Mae ei lyfrau, yn aml yn cynnwys ei ffotographau ei hun, yn cynnwys Thoreau, The Birds of Cardiganshire, The Snowdonia National Park a The Natural History of Wales. Roedd yn cyfrannu'n gyson i gylchgronnau megis Country Life ac yn fwyaf arbennig roedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i golofn Country Diary y Guardian rhwng 1957 ac 1998.
Trwy ei waith a'i ddiddordebau daeth i gysylltiad â Mary Richards, E.H.T. Bible ac R. S. Thomas.
Mae ei fywyd fel naturiaethwr a sgwennwr yn cael ei adlewyrchu yn ei archif bersonol, Papurau William Condry, sydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. O ddarllen y nodiadau, dyddiaduron, erthyglau a llythyrau yma ceir darlun o ddyn oedd â brwdfrydedd aruthrol ac ymroddiad llwyr i fyd natur.