Mon, 28 Sep 09 16:37:00
Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol gynnig croeso cynnes i las fyfyrwyr Aberystwyth a thu hwnt, a chroeso nôl i’r hen lawiau!
Am y wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr cofiwch gadw golwg ar ein tudalen Addysg Uwch.
Os nad ydych wedi bod yn y Llyfrgell o’r blaen, cofiwch fod croeso i chi ddod yma i ymchwilio, ymweld ag arddangosfeydd neu i gael pryd bwyd neu baned.
Er mwyn cyrraedd y Llyfrgell ar droed o'r Coleg cerddwch tu ôl i bwll nofio’r Brifysgol neu, os ydych yn dod o’r dre neu mewn car, trowch wrth y troad rhwng Neuadd Pantycelyn ac Ysbyty Bronglais. Cofiwch, ein bod bellach yn codi tâl o £1 am 4 awr neu £2 am ddiwrnod o barcio yn ein maes parcio (er bod modd cael ad-daliad ar werth y tocyn yn siop y Llyfrgell a cafe Pen Dinas).
Bydd dod yn ddarllenydd yn y Llyfrgell yn eich galluogi i gael mynediad at ein casgliad o hyd at 5 miliwn o lyfrau. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth eang o adnoddau electronig. Trwy logio mewn gyda'ch rhif darllenydd, bydd Adnoddau Allanol yn rhoi mynediad i chi i gasgliadau arlein fel y Times Online a'r 19th Century British Newspapers am ddim.
Cofiwch fod Ystafell Ddarllen y Gogledd - yr ystafell ddarllen ar gyfer llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd - wedi ei adnewyddu. Cymerwch gip ar fideo Ystafell Ddarllen y Gogledd am ragor o wybodaeth.
Croeso nôl!