Fri, 16 Oct 09 16:21:00
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru newyddion da ar gyfer haneswyr teulu, haneswyr cymdeithasol ... a darllenwyr chwilfrydig! Mae bellach dros 190,000 o ewyllysiau Cymru (rhyw 800,000 o dudalennau) wedi cael eu digido ac maent ar gael ar wefan y Llyfrgell trwy'r catalog arlein, ac maent i’w darllen am ddim.
Ers blynyddoedd bu ewyllysiau a brofwyd yn llysoedd eglwysig Cymru cyn cyflwyno Profiant Sifil ar 11 Ionawr, 1858 yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Bu modd chwilio drwy’r mynegai arlein a gweld delweddau digidol o'r ewyllysiau hyn o fewn adeilad y Llyfrgell ers peth amser, fodd bynnag, bellach gall defnyddwyr o bell weld y delweddau digidol cyfan arlein hefyd.
Ymhlith y casgliad mae ewyllys Twm Siôn Cati alias Thomas Johnes, Fountaine Gate, Caron (SD1609-20), union 400 mlynedd wedi ei farwolaeth. Gellir hefyd gweld ewyllys Howell Harris, y diwygiwr crefyddol enwog (BR1773-51).
Yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o wybodaeth, mae'r 193,000 o ewyllysiau arlein i’w gweld am ddim - gwasanaeth nad oes ond ychydig o sefydliadau tebyg eraill yn ei gynnig. Tra bod sefydliadu eraill yn codi ffi ar ymchwilwyr i ddarllen eu hewyllysiau, dim ond tâl am gopïo’r ewyllysiau yn unig a godir gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Bu rhag-lansiad o'r safle i ddatrys unrhyw fân broblemau yn llwyddiant mawr. Cafwyd canmoliaeth gan ddarllenwyr tramor yn Awstralia a Chaliffornia yn canmol y cynnwys a'r polisi gweld yn rhad ac am ddim.
I ofyn am gopi printiedig o unrhyw ewyllys llenwch y ffurflen ymholiad arlein gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod e.e. BR1773-51.
Cymerwch gip ar rai o’r Ewyllysiau
Howell Harris BR1773-51.
Oakley Leigh, Brongest, Llanbedr-Pont-Steffan, SD1788-80
‘Agent to the tyrannical squire, Sir Herbert Lloyd. The parish register recorded his extramarital exploits and no less than eleven 'natural' (illegitimate) children were named as beneficiaries in his will.’
William Awbrey, doctor cyfraith sigil a Changhellor Tyddewi, SD1641-10.
Mae'r ewyllysiau'n cyfeirio at; fy ‘most loveinge and welbeloved wife, Bridgett Awbrey’, and praises her for ‘her true love, carefullness and paynefullnes with me...’ Disgrifir ei ddillad a chynnwys ei dy yn y rhestr.
Miles Bassett, Caerdydd, LL1680-10.
‘And [I could put] as little confidence in my crabbed churlish unnaturall, heathenish, and unhuman sonne inlawe Leyson Evans and Anne his wife; I never found noe love, shame nor honestie with them....but basenesse and falsehood, knaverie and deceipt in them all, ever unto me....they were my greatest Enemies, I had no comfort in anie of them, but trouble & sorrow ever, they sued me in Londone in the Exchequier and in the Comonplease, and in the Marches at Ludlowe, and in the greate Sessions at Cardiff and thus they have vexed me ever of a long time.’
Mae dros 1,000 o ddogfennau profeb wedi’u hysgrifennu yn y Gymraeg, gyda thri chwarter rhain yn perthyn i esgobaeth Bangor. Ceir yma enghraifft o ewyllys Cymraeg gan Alban John, Betws [Bledrws] (SD1809-7) a rhestr o eiddo Catherine Daniel, Llanwenog (SD1835-247).
Thomas Lewis Lloyd, Nant-gwyllt, Cwmteuddwr, BR1783-20.
'I do solemnly acknowledge and declare that I was married to my Dearest and most affectionate Wife, Margaret Daughter of John Lewis, in the Parish Church of St Anne’s, Soho (tho’ out of respect to, and for fear of impairing the health of my Dear Mother, I proposed keeping it a secret during her life).’
Richard Hargest of Skynlas, Glasbury, BR1842-22. Yn ei ewyllys ef nacaodd ddyledion oedd yn ddyledus iddo gan ymddiriedolwyr capel Cwm Bach. Gadawodd £280 i’w buddsoddi mewn blwydd-daliadau, i dalu am adnewyddu’r adeilad a chyfrannu at gronfa cynorthwyol y 'Wesleyan Methodist Connexion'; roedd unrhyw arian yn weddill i’w ddefnyddio tuag at gefnogi a phregethu’r efengyl yn y capel. Roedd yr ymddiriedolwyr i gyflwyno cyfrifon cyson yng nghwrdd chwarterol y Gylchdaith. Cyflwynodd hefyd £100 tuag at Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid a nwyddau personol i berthnasau a chyfeillion.
Gybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk
Beryl Evans: Hanes Teulu, LlGC: 01970 632 821 beryl.evans@llgc.org.uk
Dolenni