Wed, 04 Nov 09 12:39:00
Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, sy’n traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni ar ddydd Gwener 6 Tachwedd 2009.
Mae’r Archif yn rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol ac ymysg ei siaradwyr blaenorol mae’r Arglwydd Elystan-Morgan, Ron Davies a’r Arglwydd Crickhowell.
Bydd y Prif Weinidog yn trafod sut y bu i Ddatganoli alluogi Cymru i fod yn labordy syniadau ar gyfer polisïau newydd megis presgripsiynau am ddim a strategaeth ‘dysgu wrth chwarae’ i blant o dan 7 oed yn ysgolion cynradd Cymru.
Mae tocynnau ar gyfer y ddarlith yn Drwm eisoes wedi eu gwerthu, ac mae’r Llyfrgell yn paratoi man ychwanegol i’r rhai na fydd yn gallu mynd i’r Drwm i wylio’r ddarlith. Bydd y ddarlith yn cael ei ffilmio gan y Llyfrgell a bydd, maes o law, yn cael ei chyhoeddi a’i dangos ar wefan y Llyfrgell.
Meddai John Graham Jones, Pennaeth yr Archif Wleidyddol Gymreig
‘Mae’n bleser arbennig gan yr Archif Wleidyddol Cymreig groesawu’r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC wrth i’w yrfa hir a disglair yng ngwleidyddiaeth Cymru ddirwyn i ben, ac wrth i’r ornest i ddewis ei olynydd godi momentwm a denu cymaint o ddiddordeb ar draws Cymru.’
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983. Mae’n casglu llenyddiaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru a grwpiau ymgyrchu yn ogystal â gohebiaeth gan rai o’r ffigyrau gwleidyddol mwyaf, o David Lloyd George i wleidyddion heddiw.
Darlith Flynyddol Archif Wleidyddol Gymreig
5.30 p.m., nos Wener 6 Tachwedd 2009
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth