Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cerdd Hedd Wyn, Yr Arwr, arlein

Wed, 11 Nov 09 11:17:00

 


Ar adeg Diwrnod y Cadoediad, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi fod fersiwn ddigidol o’r copi gwreiddiol o gerdd enwog Hedd Wyn, Yr Arwr, nawr ar  wefan y Llyfrgell.


 


Cyfansoddwyd Yr Arwr gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) o Drawsfynydd a oedd yn aelod o 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Er i’r gerdd ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917, ni eisteddodd y bardd erioed ynddi gan iddo farw ar faes y gâd yn Ypres ar ddiwrnod olaf Gorffennaf 1917.


 


Oherwydd tristwch y digwyddiad taenwyd lliain ddu ar draws y Gadair er cof am y bardd.


 


‘Cyflwynwyd y gerdd hon i'r Llyfrgell gan J.R. Jones, ysgolfeistr o Lwyn Celyn ger Trawsfynydd. Mae archif Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd yn cael ei chadw yn y Llyfrgell ac yn cynnwys cerddi buddugol eisteddfodau cenedlaethol a phob math o ddeunydd diddorol a phwysig eraill. Heb os, i ni fel Llyfrgell, ac i ni fel cenedl, mae cerdd enwog a hanes hynod drist yma yn rhywbeth sy’n bwysig ei gofio a’i thrysori,’ meddai Lyn Lewis Dafis, Pennaeth Uned Digido a Meatadata.


 


 


Gwybodaeth Bellach:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  sion.jobbins@llgc.org.uk


 


Dolenni:


Tudalen Hedd Wyn

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012