Mon, 30 Nov 09 16:54:00
Cynhelir sioe arddangos arbennig a derbyniad gwin yng nghwmni’r gemydd Mari Thomas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Wener, 11 Rhagfyr am 19:30 pm. Trefnir y digwyddiad, a fydd ar agor i’r cyhoedd, dan faner Penodau, cynllun noddwyr unigol y Llyfrgell.
Caiff Mari ei chydnabod am gynhyrchu gemwaith sy’n unigol a chofiadwy, a bydd y digwyddiad hwn yn arddangos y casgliad gemwaith Cysyniadau Addurniadol a ddyluniwyd ganddi yn arbennig ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd y Llyfrgellydd Andrew Green,
‘Mae’n argoeli i fod yn noson gofiadwy iawn ble fydd gwesteion yn cael cyfle i siarad gyda Mari Thomas a manteisio ar y cyfle i brynu anrheg Nadolig arbennig i berthynas neu ffrind. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd darn unigryw o emwaith a baratowyd gan Mari ar gyfer y digwyddiad yn cael ei rafflo ar y noson. Cyn ymadael fe fydd pob gwestai yn derbyn ‘Goodie Bag’ Mari Thomas ac fe hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydnabod ei diolch i’r cwmnïau canlynol am gefnogi’r noson: Gwesty Cymru, Caffi Blue Creek, Beauty Spot, Penderyn, Richard Lloyd Hairdressing a Shapeshifters.
Mae gan y cynllunydd gemwaith sy’n wreiddiol o Lanelli, statws cenedlaethol a rhyngwladol. Ei chyfrwng yw metelau gwerthfawr, ac mae ei chynlluniau cyfoes a’i chasgliadau unigryw wedi eu dylanwadu gan dirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Yn 2008 ar y cyd â’i chydweithwraig Nicola Palterman, lansiodd galeri arbennig ar gyfer ei gemwaith yn yr eglwys Norwyeg yn Abertawe ac yno hefyd y lleolir ei gweithdy erbyn hyn.
Mae wedi arddangos ei gwaith poblogaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn lleoliadau yn cynnwys Llundain, Tokyo ac Efrog Newydd. Enillodd nifer o wobrau dros y blynyddoedd yn cynnwys y fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’n aelod etholedig o Design Nation, Y Cyngor Crefftau a’r ‘Goldsmiths Hall’s Who is Who’ mewn aur ac arian. Mae Mari wedi dylunio modrwyon priodas i gleientiaid preifat yn cynnwys yr actor Ioan Gruffudd, y cyflwynydd teledu Siân Lloyd a Tim Rhys Evans, arweinydd côr Only Men Aloud a ddaeth i amlygrwydd ar raglen Last Choir Standing y BBC.
Gwybodaeth bellach
Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian LlGC: Digwyddiadau a Chyfranwyr
01970 632 938