Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Y Bywgraffiadur Ar-lein Hanes miloedd o Gymry ar hyd yr oesoedd

Thu, 10 Dec 09 13:55:00

Bydd y rhai sydd am ddarganfod pwy yw pwy, neu’n hytrach pwy oedd pwy yng Nghymru ‘nawr yn gallu pori yn y diweddariad newydd i’r Bywgraffiadur Ar-lein. Ceir bellach bron i 5,000 o enwau ‘beirdd a chantorion, enwogion o fri’ ar y wefan safonol a dibynadwy ddwyieithog hon, wedi i enwau llawer o’r rhai a fu farw er 1970 gael eu hychwanegu i’r Bywgraffiadur.


 


Ymysg yr enwau newydd mae gwleidyddion megis:

  • James Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru
  • George Thomas, Is-Iarll Tonypandy
  • Stefan Terleski, yr AS Ceidwadol o dras Iwcranaidd
  • Desmond Donnelly, cyn aelod seneddol Llafur dros Sir Benfro a ymunodd drachefn â’r Ceidwadwyr
  • ymgyrchwraig Eirene White

 


Ceir yma hefyd ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol Cymru. Yn eu plith mae:

  • Iorwerth Peate, sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru
  • Thomas Parry, bardd a beirniad llên
  • J E Caerwyn Williams, yr academydd
  • George Ewart Evans a gasglodd hanesion llafar gweithwyr fferm a glowyr
  • Philip Yorke, sgweier Erddig, ger Wrecsam

 


Cyn hyn roedd y Bywgraffiadur arlein yn fersiwn electronig o’r Bywgraffiadur Cymreig, cyfrolau print a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain a oedd yn cynnwys erthyglau am Gymry amlwg a fu farw cyn 1970. Dan olygyddiaeth yr academydd a chyn Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Dr Brynley Roberts, ychwanegwyd erthyglau newydd am bobl a fu farw ar ôl 1970. Penderfynodd y Cymmrodorion i beidio â pharhau i gyhoeddi rhagor o gyfrolau print am y tro ond manteisio ar y cyfleusterau chwilio eang a geir trwy gyfrwng y datblygiadau newydd ym maes digido. Trwy gydweithrediad â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, diweddarir y deunydd yn gyson arlein trwy gywiro cynnwys y cyfrolau print ac ychwanegu rhai cofnodau na lwyddwyd i’w cynnwys yn y cyfrolau print cynharach.


 


‘Mae’r Bywgraffiadur ar-lein eisoes wedi ennill ei phlwy fel adnodd awdurdodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ym mywyd Cymru. Mae’r ffaith ei fod ar-lein yn ei wneud yn hawdd iawn i bobl ddarganfod cofnod am berson arbennig. ‘Mae’n enghraifft o’r cyd-weithio da sydd wedi bodoli ers blynyddoedd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a’r Cymmrodorion - dau o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru,’ meddai Brynley Roberts.


Mae cwmpas amser y Bywgraffiadur yn hir, yn ymestyn o Cunedda a ddaeth o’r Hen Ogledd i erlid y Gwyddelod allan o Gymru wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at arwyr heddiw. Mae’n cynnwys bywgraffiadau tywysogion, uchelwyr, llenorion, swyddogion o bob math, gweinidogion, crefftwyr, mabolgampwyr, llafurwyr, milwyr, diwydianwyr a ffermwyr, i enwi dim ond ychydig a heb sôn am y llu o ferched diddorol y sonnir amdanynt.


 


 


Gwybodaeth Gefndir


Mae’r Bywgraffiadur Ar-lein yn drwyadl ddwyieithog  gyda phob ysgrif yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Mae’n cyfuno’r dair gyfrol Gymraeg Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, Y Bywgraffiadur Cymreig, 1941- 1950 a’r Bywgraffiadur Cymreig, 1951 - 1970 a’r ddwy gyfrol Saesneg The Dictionary of Welsh Biography down to 1940 a’r Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ynghyd â’r erthyglau newydd a gomisiynwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae'n adnodd gwerthfawr i bawb sy'n ymddiddori mewn hanes a diwylliant Cymru.

 


Gwybodaeth bellach


ebost y bywgraffiadur arlein


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sion.jobbins@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012