Wed, 20 Jan 10 10:33:00
Mae gwaith ac etifeddiaeth y diweddar arlunydd, Syr Kyffin Williams, yn un sy'n ennyn diddordeb ar draws Cymru a thu hwnt. Mewn cydnabyddiaeth o hyn, gall y rhai sy'n hoff o waith Kyffin bellach ddilyn datblygiadau diddorol catalogio ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol ar flog newydd cymynrodd Kyffin Williams.
Yn dilyn marwolaeth Kyffin yn 2006 derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ran helaeth o'i ystâd, yn cwmpasu'r gweithiau a grëwyd ganddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, a'i archifau sy'n cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron a ffotograffau. Bydd casgliad mawr ac eang o'r fath yn galluogi ymchwilwyr, myfyrwyr ysgol a choleg, yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb yn Kyffin, i ehangu eu dealltwriaeth o fywyd a gwaith yr arlunydd, sy'n cael ei gyfrif yn un o artistiaid amlycaf Cymru'r 20fed ganrif. Bydd y blog newydd, sydd yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn rhoi cip i’r darllenwyr ar y datblygiadau diweddaraf.
Cyn medru rhyddhau'r casgliad mae'n rhaid ei gatalogio a'i ddigido, a sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams i'r diben hwnnw. Daw'r prosiect i ben yn Ionawr 2011. Bwriad y blog hwn yw darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r catalogio ac agweddau eraill o'r prosiect, yn ogystal â chyfeirio at ambell eitem ddiddorol a ddaw i'r golwg wrth gatalogio.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gymynrodd a'r prosiect ar dudalen Cymynrodd Kyffin Williams ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dolenni
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk