Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

David John Berry 1943 – 2010

Mon, 25 Jan 10 14:56:00

Gyda marwolaeth annhymig Dave Berry ddydd Gwener 22 Ionawr, nid colli cyn gyd-weithwr yn unig wnaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ond cyfaill triw a’i chefnogwr mwyaf brwd.


 


Yn dilyn gyrfa newyddiadurol, a chyda chymorth cyfeillion a Chyngor Ffilm Cymru, cafodd Dave y cyfle i ysgrifennu’r llyfr pwysicaf ar berthynas Cymru â ffilm, Wales and Cinema: the first hundred years, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1994.


 


Yn 1997 ymunodd â Sgrîn ac yna Archif Ffilm a Theledu Cymru fel Swyddog Ymchwil. Yn 2001 unwyd yr Archif â chasgliadau clyweledol y Llyfrgell Genedlaethol, gan greu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Nid oes modd mesur ei gyfraniad i’r maes, ac roedd y Llyfrgell Genedlaethol, ei gyflogwr hyd ei ymddeoliad yn 2005, yn hynod o freintiedig i gael aelod o staff mor wybodus, hawddgar ac ymroddedig.


 


Dywedodd Andrew Green, y Llyfrgellydd ar glywed y newyddion trist,


 


‘Dave Berry oedd polymath y sinema yng Nghymru. Wedi mynd ati i feistroli’r maes, fe ymrôdd yn llwyr i hyrwyddo ffilm yng Nghymru, ynghŷd â phawb a phopeth a oedd yn ymwneud â’i hanes. Gallai siarad yn huawdl ar bob agwedd o’r maes, a daeth pawb i dderbyn fod ei Wales and Cinema yn glasur. Yma yn y Llyfrgell Genedlaethol roedd ei gyfraniad i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gwbl arbennig.’


 



Ategodd Iestyn Hughes, Pennaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

’Fe ddywed Richard Burton yn y ffilm Dylan Thomas fod y gwrthrych ‘yn caru llefydd glan môr, ond llefydd bach glan môr Cymru fwyaf oll’, ac felly y carodd Dave Berry hanes ffilm yn grwn, ond hanes y ffilm Gymreig yn bennaf oll. Fe weithiodd yn ddiflino ar ran yr Archif, gan ddefnyddio ei wybodaeth anhygoel a’i rwydwaith fyd-eang o gysylltiadau i ddenu trysorau bach i’r casgliad. Ef oedd yn arwain ein dangosiadau am flynyddoedd maith, gan ddadlau na ddylid byth taflunio ffilm heb egluro’r cyd-destun i’r gynulleidfa. Roedd bob amser yn mynnu’r safonau uchaf, ac yn aml yn gwthio ei hun i’r eithaf heb ystyriaeth yn y byd am ei les ei hun. Ef yn anad neb oedd yn gyfrifol am i ni gynnal gŵyl ffilm Fflics, i ddathlu canmlwyddiant y Llyfrgell Genedlaethol; menter anhygoel o uchelgeisiol ar y pryd. Roedd yr ŵyl yn antur enfawr i archif weddol fach, ac roeddem oll mor falch o’r llwyddiant a gafwyd, a bod y llwyddiant hwnnw’n deyrnged briodol i Dave.


 


Roedd Iola Baines, Swyddog Datblygu Ffilm AGSSC yn ffrind a chyd-weithiwr agos iddo,


 


‘Gwybodaeth ddigymar Dave Berry oedd sbardun a chanllaw’r Archif. Ei gyfrol ‘Wales and Cinema’ oedd ein beibl, ac roedd ei angerdd dros ffilmiau Cymreig o bob math yn golygu fod ein dangosiadau a’n digwyddiadau cyhoeddus i gyd yn gymysgedd braf o ddyfnder dysg ac afiaith heintus. Roedd ei weld yn cadeirio trafodaethau yn bleser pur – heb or-wneud y defnydd o’r trylwyredd oedd yn nodweddiadol o’i baratoadau ar gyfer yr achlysur, gallai ennyn ar ymatebion difyr gan eraill cyn mynd ati i gyfoethogi’r cyfraniadau hynny ei hun wedyn, gyda phob sylw ganddo yn ymddangos fel petaen nhw’n newydd a gwreiddiol. Ni allai ddygymod â ffyliaid a doedd neb yn fwy o ffyliaid yn ei olwg nag ymchwilwyr nad oeddent yn cymryd eu gwaith o ddifrif – h.y. disgwyliai iddynt  chwilio am dystiolaeth wreiddiol – yn hytrach na dibynnu ar y we neu ar erthyglau blêr eu harddull. Byddai diffyg troed-nodiadau yn arwydd o hyn i Dave. Roedd yn gyfathrebwr heb ei ail, gyda thro ymadrodd a chariad at iaith a allai swyno unrhyw un i ymddiddori yn yr hyn oedd ganddo i’w ddweud. Yn nhermau ein hetifeddiaeth ffilm, ef a osododd y safon, gan ddangos i ni yr hyn y dylem chwilio amdano, sut i werthfawrogi ein darganfyddiadau a sut orau i’w dathlu.’


 


Ac roedd gan John Hefin, cyfaill iddo, feddwl mawr o Dave Berry,


 


‘Sais gwych oedd Dave Berry a ymroddodd yn ddiflino ac yn aml yn ddi-dâl i greu ei gampwaith ‘Wales and Cinema – the first hundred years”, carreg filltir o lyfr yn hanes llunyddiaeth, ac fe saif yn gyfrol arloesol ac yn gofeb gariadus i’w gyfraniad hael.’


 


Cyflwynwyd y mwyafrif o archif ymchwil bersonol Dave Berry i’r Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn iddo ymddeol, a gellid cael mynediad iddi yn swyddfeydd AGSSC trwy apwyntiad.


 


 


Gybodaeth bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012