Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gwena! – Portreadau o’r Cymry

Fri, 05 Feb 10 15:56:00

Cynhelir lansiad arddangosfa Gwena! – Portreadau o’r Cymry ar nos Wener 12 Chwefror 2010 yng nghwmni’r cyflwynydd, canwr a ffarmwr, Dai Jones, Llanilar. Yno hefyd fydd y cartwnydd o Gaerdydd, ‘Picasso’ Griffiths, i dynnu portreadau unrhyw un sy’n dymuno, yn y fan a’r lle. 


 


Cynhelir Gwena! rhwng 1 Chwefror a 19 Mehefin 2010 yn safle ysblennydd Oriel Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yr arddangosfa'n llawn o bortreadau Cymry’r gorffennol a’r presennol. Bydd yn gyfle unigryw i weld rhai o wynebau eiconig a mwyaf enwog a diddorol Cymru sydd yng nghasgliad anferth y Llyfrgell Genedlaethol.


 


Casgliad portreadau’r Llyfrgell yw’r casgliad mwyaf o bortreadau Cymreig yn y byd ac mae'n cynnwys degau o filoedd o ddelweddau mewn ystod eang o gyfryngau, o ffotograffau i frasluniau, engrafiadau a gweithiau celf mewn ffrâm.


 


Mae’r arddangosfa’n llawn ‘beirdd a chantorion, enwogion o fri’. Yn eu mysg mae lluniau o bencampwyr megis y bocsiwr byd-enwog o Drecelyn yng Ngwent, Joe Calzaghe, chwaraewyr rygbi fel Barry John ac Ieuan Evans a’r athletwraig, Tanni Grey-Thompson.


 


Cawn weld casgliad o gartwnau cynnar o Vanity Fair; portread o Christmas Evans y gweinidog anghydffurfiol oedd ag ond un llygad; Griff Rhys Jones, yr actor adnabyddus a Mary Hopkin y gantores, ynghyd â rhai o wleidyddion enwog Cymru gan gynnwys David Lloyd George, Aneurin Bevan, Gwynfor Evans a Neil Kinnock .... ac wrth gwrs, Dai Jones.


 


Lansiad Arddangosfa Gwena! – Portreadau o’r Cymry


18:30 nos Wener


12 Chwefror 2010


 


Arddangosfa Gwena! – Portreadau o’r Cymry


1 Chwefror – 19 Mehefin 2010


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


 


Gwybodaeth bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 


I fynychu’r lansiad rhowch wybod i Sian Henson ar:


sian.henson@llgc.org.uk  01970 632545


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012