Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Wythnos Fasnach Deg - Cyflwyniad ar 22 Chwefror

Thu, 18 Feb 10 14:50:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu pythefnos masnach deg rhwng 22 Chwefror a 5 Mawrth 2010, trwy werthu cynnyrch bwyd a chrefft i greu byd tecach a chyflwyniad ar ddydd Llun 22 Chwefror.


 


Cychwynnir y pythefnos gyda chyflwyniad am waith Masnach Deg a sut mae’n elwa pobloedd ar draws y byd am 13:15 ddydd Llun 22 Chwefror.


 


Bydd cyflwyniad am fasnach deg gan gwmni Cadwyn o Sir Gaerfyrddin a dangosiad o ffilm rhaglen Hacio ar S4C am y Niger yn Affrica. Ceir hefyd nwyddau ar werth yn y siop a bwydydd ar gael yng nghaffi Pen Dinas.


 


‘Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn stocio cynnyrch Masnach Deg trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys siocled a choffi. Serch hynny, rydym yn falch iawn i gymeryd rhan yn nigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg 2010,’ meddai Shân Price ar ran y Llyfrgell.


 


Dolenni

 


Gwybodaeth bellach


Cyril Evans, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 565  post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012