Mon, 01 Mar 10 15:14:00
Mae pob diwrnod o’r flwyddyn yn ‘ddiwrnod y llyfr’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond bydd y diwrnod eleni yn un arbennig wrth gwrs. Yn arbennig oherwydd bydd y Llyfrgell yn arddangos casgliad rhyfeddol o luniau o bobl frodorol America ar gyfer Diwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth.
Mae’r ffotograffau rhyfeddol yma i’w gweld yn y llyfr hynod a phrydferth ‘The North American Indian’ gan y ffotograffydd enwog, Edward S Curtis.
Cyflwynwyd y gyfres gyfyngedig hon i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Henry Blackwell, Efrog Newydd, ar achlysur gosod carreg sylfaen yr adeilad gan Brenin Siôr V, 15 Gorffennaf 1911. Mae'r gyfres yn cynnwys 20 cyfrol, yn ogystal â 20 ffolio o ffotograffau, sy'n cofnodi Indiaid Unol Daleithiau America ac Alasga. Maent yn gofnod gwerthfawr o'i thraddodiadau a ffordd o fyw brodorion America. Mae’r llyfrau eu hunain yn fawr - 32.5cm o hyd, 26cm o led a 5cm o drwch.
Bydd rhai o’r lluniau o’r gyfrol i’w gweld yn yr hen Prif Gyntedd trwy gydol yr wythnos. Gwelir enghraifft bellach o'r cyfrolau yn ein harddangosfa gyfredol Gwena! Portreadau o'r Cymry sydd ymlaen yn Oriel Gregynog. Mynediad am ddim.
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr bydd Twm Morys, Bardd Plant Cymru, hefyd yn diddanu a dysgu plant Ysgol Gynradd Dihewyd i farddoni yn y Llyfrgell.
Dolenni
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk