Tue, 23 Mar 10 15:18:00
Gyda llai na wythnos cyn i Awr Ddaear WWF gael ei chynnal, mae’r fenter fyd-eang wedi tyfu’n fwy nag erioed o’r blaen, gan ragori ar ddigwyddiadau’r holl flynyddoedd blaenorol. Y llynedd cymerodd 88 o wledydd ran yn y fenter ac yn 2010, gyda mwy na 100 o wledydd yn cymryd rhan, bydd ton yn croesi’r Ddaear wrth i adeiladau a sefydliadau mewn 25 cylchfa amser ddiffodd eu goleuadau nos Sadwrn 27 Mawrth 2010 am 20:30.
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
"Mae cynaladwyedd amgylcheddol yn un o brif elfennau polisi’r Llyfrgell. Felly mae’n fraint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn y digwyddiad arwyddocaol hwn, ac yn fwy nag addas y bydd un o adeiladau enwocaf ac amlycaf Cymru’n cael sylw mawr”
Mae’r Llyfrgell yn ymuno â rhestr hir o adeiladau a sefydliadau adnabyddus sy’n cefnogi Awr Ddaear am yr ail flwyddyn yn olynol gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, adeilad y Senedd, Tŵr y Cloc yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd, y Basn Hirgrwn a Gwesty a Sba St David’s.
Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru: “Rydym wrth ein bodd fod cynifer o adeiladau a sefydliadau amlwg ledled Cymru’n diffodd eu goleuadau ac yn cefnogi Awr Ddaear WWF. Mae wedi helpu i wneud Cymru’n rhan o gyffro byd-eang.”
“Eleni mae Awr y Ddaear yn gobeithio denu rhyw un biliwn o bobl ledled y byd. Mae WWF Cymru eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl yng Nghymru gymryd rhan a gwneud i’w cyfraniad gyfrif trwy gofrestru ar-lein ar www.wwf.org.uk/earthhourwales er mwyn dangos i arweinwyr y byd ein bod ni’n malio am y newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau arswydus ar bobl a’r byd naturiol.”
Gwybodaeth bellach
Elin-Hâf 01970 632 534 neu elin.williams@llgc.org.uk