Thu, 15 Apr 10 11:44:00

Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi penodiad dau Ymddiriedolwr i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Y ddau yw Mr Wyn Penri Jones a Mr Huw Williams.
Bancar Siartedig yw Wyn Penri Jones sydd wedi dilyn gyrfa eang gyda Banc HSBC ar draws Cymru. Ers 2005 mae’n Ymgynghorydd Datblygu Busnes, ac wedi gweithio i glientiaid megis Bwrdd Croeso Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Menter Cymru. Bu’n ymddiriedolwr Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ac yn Drysorydd ac aelod o fwrdd Cwlwm Busnes Caerdydd o 1994 hyd 2005. Bellach mae’n Gyfarwyddwr a Thrysorydd cwmni Goriad FM Cyf ; Ysgrifennydd Cyfreithiol cyntaf Capel Y Tabernacl Cyf Efail Isaf; ac yn Drysorydd Cronfa Goffa Ryan Davies. Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, mae Wyn yn briod gyda phedwar o blant, ac yn byw yn Nhon-teg ger Pontypridd.
Huw Williams yw Is-gadeirydd cwmni cyfreithwyr Geldards LLP ac mae’n uwch-bartner yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes cyfraith gyhoeddus. Mae cyfnod Huw fel un o Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru newydd ddirwyn i ben. Ef hefyd yw Ysgrifennydd Cwmni Canolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n aelod o bwyllgor gweithredol y Gymdeithas Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol yng Nghymru (ac ef oedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas). Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Cyfraith Cynllunio ac Amgylcheddol Cymdeithas y Cyfreithwyr a Phwyllgor Cymru o’r Gymdeithas. Cymro Cymraeg yw Huw. Cafodd ei eni yn Llanelli a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli a Choleg yr Iesu, Rhydychen (BA Cyfreitheg, MA). Erbyn hyn, mae’n byw ym Mhenarth a Sir Benfro.
Dywedodd Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell:
“Mae gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ac aelod o Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i gael ei gyfrif fel rhywbeth tra gwerth chweil a dyna’r rheswm pam yr ydym eto wedi medru penodi unigolion galluog a phrofiadol i helpu’r sefydliad wynebu ansicrwydd a heriau’r dyfodol. Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r ddau am eu parodrwydd i ymuno â ni ac edrychaf ymlaen at gydwethio â hwy er lles y Llyfrgell."”.
Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Rwy'n croesawu'n fawr iawn penodiad Mr Wyn Jones a Mr Huw Williams fel aelodau newydd o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd eu sgiliau a'u profiad eang yn ychwanegiad gwerthfawr i sgiliau presennol y Bwrdd ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gyfraniad y ddau at waith y Bwrdd."
Cychwynnodd y ddau aelod newydd ar eu gwaith ar 1 Ebrill 2010 a bydd eu penodiadau’n para pedair mlynedd. Nid yw Ymddireidolwyr y Llyfrgell yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd.
Nid yw Mr Wyn Jones na Mr Huw Williams yn dal unrhyw benodiadau Gweinidogol.
Bwrdd y Llyfrgell yw Bwrdd annibynnol yr Ymddiriedolwyr, ac mae’n cadw casgliadau’r Llyfrgell mewn ymddiriedolaeth ar gyfer pobl Cymru ac yn rhoi cyfeiriad strategol i waith y Llyfrgell. Llywydd y Llyfrgell, sy’n cadeirio’r Bwrdd, yw’r Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley. Swyddogion penodedig eraill sydd ar y Bwrdd yw’r Is-lywydd, Mr Arwel Ellis Owen, a’r Trysorydd, Mr Colin John.
Mae gofyn i Ymddiriedolwyr gyflawni dyletswyddau ymddiriedolwr elusen, fel y’u diffiniwyd a’u cyflwynwyd gan y Comisiwn Elusennol.
Dylai Ymddiriedolwyr hefyd wybod am yr ymrwymiadau arnynt sy’n codi yn sgil sefyllfa’r Llyfrgell fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r rhain wedi’u cyflwyno yn y Datganiad Rheoli a’r Memorandwm Ariannol, sy’n egluro’r Telerau a’r Amodau y mae’r Llyfrgell yn derbyn Arian gan y Cynulliad drwyddynt, ac sydd ar hyn o bryd yn destun adolygiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Llyfrgell.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru, a phrif ffynhonnell gwybodaeth a gofnodwyd y wlad. Mae’n gorff o fri rhyngwladol, ac mae’n cyfrannu at rwydwaith fyd-eang o ddarparwyr gwybodaeth. Mae’r Llyfrgell yn anarferol, os nad unigryw, ymysg llyfrgelloedd cenedlaethol o ran ei bod yn casglu ac yn rhoi mynediad i wybodaeth a gofnodwyd ym mhob cyfrwng bron â bod – llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, llawysgrifau ac archifau, mapiau, peintiadau, lluniau a phrintiau, ffotograffau, delweddau symudol a sain, a chyfryngau electronig. Mae’r Llyfrgell yn CNLC (sef Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad) ac hefyd yn elusen gofrestredig sy’n gorfod bodloni Cyfraith Elusennau.
Mae strategaeth y Llyfrgell yn ceisio llywio llwybr ar gyfer datblygiad y Llyfrgell dros y tair blynedd 2008-2009 hyd at 2010-2011. Mae’n cynnig strategaeth sydd am ddiogelu gwaith hanfodol presennol y Llyfrgell, ar yr un pryd ag agor y potensial anferthol sydd gan y Llyfrgell i gyfoethogi pobl Cymru, er budd cynulleidfaoedd ehangach a defnyddwyr newydd.
Mae’r Llyfrgell yn dibynnu’n bennaf ar Lywodraeth Cynulliad Cymru am ei chyllid, er ei bod hefyd yn denu arian o nifer o ffynonellau eraill gan gynnwys grantiau o gyrff eraill, cefnogaeth gan unigolion, incwm o’i gweithgarwch masnachu a’i chyllid elusennol ei hun.
Gwneir pob penodiad ar deilyngdod a nid yw gweithgareddau gwleidyddol yn effeithio ar y broses penodi. Er hynny, yn unol ag argymhellion Nolan, mae’n angenrheidiol i gyhoeddi gweithgareddau gwleidyddol (os datganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol) y sawl y’u penodwyd. Ni ddatganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol gan yr ymgeiswyr a benodwyd. Rheolir penodiadau Gweinidogion Cymru i’r Llyfrgell gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a phenodwyd Mr Williams yn unol â Chôd Ymarfer OCPA (Office of the Commissioner for Public Appointments). Nid yw penodiadau i’r Llyfrgell gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn dod dan gyfrifoldeb y Comisiynydd, ond penodwyd Mr Jones yn dilyn proses a gymrodd Côd y Comisiynydd i ystyriaeth fel ymarfer da.
Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk