Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gŵyl y Gelli – Y Llyfrgell Yno!

Fri, 28 May 10 16:27:00

Bwriwch draw i ŵyl lyfrau y Guardian yn y Gelli Gandryll am flas o waith a chasgliadau’r Llyfrgell. Cewch glywed darlith ar ffotograffau hynod Hunter S Curtis o’r Indiaid Cochion, cyflwyniad i Lyfr Gwyn Rhydderch a’r Mabinogi, a sgwrs arbennig i awduron ar sut mae cadw eu gwaith rhag mynd yn ddifancoll ‘i’r oesoedd a ddel’.


 


Lyn Lewis Dafis, Pennaeth Uned Digido a Metadata'r Llyfrgell, sy’n traddodi darlith ar ffotograffau du a gwyn hynod Hunter S Curtis o’r Americaniaid Brodorol. Tynnwyd y ffotograffau hyn ar droad yr 20fed ganrif ac maent ymysg y ffotograffau mwyaf hynod yng nghasgliad y Llyfrgell. Bydd darlith Lyn am 18:45 nos Fawrth 1 Mehefin 2010.


 


Bydd Yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd, un o’r arbenigwyr pennaf ar y Mabinogi, yn rhoi darlith ar Lyfr Gwyn Rhydderch a’i gynnwys. Mae’r Llyfr Gwyn yn un o brif gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ac ynddo ceir y Mabinogi yn ei ffurf gynharaf a mwyaf cynhwysfawr. Bydd darlith Sioned am 09:00 fore Sul 6 Mehefin.


 


Mae’r Llyfrgell yn rhannu safle yn y Gelli eleni gyda nifer o gyrff llenyddol eraill Cymru - Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi, Cyngor y Celfyddydau ac Adran Diwylliant y Llywodraeth. Gelwir y safle yn Culture Cymru ac ynddi ceir toreth o sgyrsiau a digwyddiadau am ddim trwy gydol yr wythnos.


 


Dewch draw i Culture Cymru am baned ac i wrando ar Ifor ap Dafydd o brosiect Archif Llenyddiaeth Cymru yn siarad yn Saesneg am ‘archifau digidol yn yr oes ddigidol’. Bydd yn siarad ddwywaith; am 16:00 ddydd Llun 31 Mehefin a 11:00 dydd Gwener 4 Mehefin 2010.


 


Dolenni




Gwybodaeth Bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012