Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Claudia Williams yn Cofio Tryweryn

Tue, 15 Jun 10 10:58:00

Tryweryn – enw sydd wedi ei hysgrifennu ar sawl mur, ac ar gof y genedl, yw testun arddangosfa gan un o brif artistiaid Cymru, Claudia Williams. Bydd yr arddangosfa'n rhedeg rhwng 19 Mehefin – 4 Medi 2010 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Yn Cofio Tryweryn, mae Claudia Williams yn ymdrin â’i chof a’i barn ar benderfyniad dadleuol Corfforaeth Dinas Lerpwl i foddi Cwm Celyn ger Y Bala yn 1965. Bydd nifer yn cofio y cafwyd degawd tanbaid o ymladd i achub y gymuned Gymraeg ei hiaith gyda bomio a phrotest heddychlon ar draws y wlad. Gan ddefnyddio nifer o ffotograffau o’r cyfnod sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, mae Claudia Williams wedi creu arddangosfa sy’n gadael i’r atgofion lifo nôl, gan roi golwg mwy personol fel un oedd yn fam ar y pryd i un o ddigwyddiadau gwleidyddol mawr Cymru.


 


Mae’r arddangosfa’n cynnwys delweddau o deuluoedd yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a ffermydd a mur enwog Llanrhystud ger Aberystwyth gyda’i slogan ‘Cofiwch Dryweryn’.


 


Ganed Claudia Williams yn Purley, Surrey yn 1933 ac astudiodd yn Ysgol Gelf Chelsea. Yn 1954 priododd yr artist Gwilym Prichard gan symud i fyw i Langefni a magu teulu ar adeg helynt Tryweryn. Buont hefyd yn byw am sawl blwyddyn yn Llydaw cyn dychwelyd i fyw yn Ninbych-y-pysgod yn Sir Benfro yn 2000. Mae hi bellach yn un o brif artistiaid Cymru ac yn meddu ar ddilyniant ffyddlon a brwdfrydig. Caiff ei hedmygu am roi darlun personol ac o safbwynt benywaidd i ddigwyddiadau gwleidyddol mawr fel Tryweryn ac ymgyrchwyr heddwch Comin Greenham yr 1980au.


 


Yn ogystal â darluniau Claudia, ychwanegir at yr arddangosfa gan ffotograffau enwog Geoff Charles. Fel rhan o’r arddangosfa hefyd dangosir awr o ffilmiau am Dryweryn o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell. Dangosir y ffilmiau yn sinema’r Llyfrgell, y Drwm, ar 23 Mehefin.


 


Dywed Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green;


 


‘Claudia Williams yw un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru. Mae rhychwant eu bywyd a phrofiadau’n golygu fod ei gwaith yn adlewyrchu person sydd wedi gweld llawer ac wedi meddwl llawer am y natur ddynol a chymdeithasol. Rydym yn falch iawn i arddangos ei gwaith unwaith eto yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.’


 


Cynrychiolir Claudia Williams gan Oriel Martin Tinney Gallery.


 


Arddangosfa Cofio Tryweryn


Balconi’r Brif Fynedfa, Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


19 Mehefin – 3 Medi 2010


 


Ffilmiau Archif am Dryweryn


Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


13:15, 23 Mehefin 2010


Mynediad am ddim drwy docyn yn unig


 


Gwybodaeth Bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012