Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Y Gorau o Archifau’r Llyfrgell a'r Deyrnas Unedig yn cael Statws y Cenhedloedd Unedig

Tue, 13 Jul 10 14:45:00

Mae deg o eitemau a chasgliadau wedi’u dewis i fod y rhai cyntaf ar restr treftadaeth o ddogfennau eithriadol yn y Deyrnas Unedig ac yn eu plith mae ffilm na chyhoeddwyd erioed am David Lloyd George, (The Life Story of David Lloyd George) y Rhyddfrydwr olaf i fod yn Brif Weinidog, a chasgliad Llawysgrifau Peniarth sy'n cynnwys Llyfr Cyfraith enwog Hywel Dda. Mae casgliadau'r Llyfrgell ymysg deg eitem buddugol yn dod o bob cwr o’r wlad, ac yn cwmpasu bron i 1000 o flynyddoedd o hanes gan grynhoi cyfnodau ac adegau hanfodol bwysig yn natblygiad y Deyrnas Unedig.


 


Yr eitemau hyn yw’r cyntaf i gael eu cofrestru yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO ar gyfer y Deyrnas Unedig, sef catalog arlein sydd wedi’i greu er mwyn cynorthwyo i hyrwyddo treftadaeth ddogfennol y Deyrnas Unedig ledled y wlad a’r byd. Mae’r gofrestr yn rhan o raglen Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) i gefnogi archifau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.


 


Cafodd yr enwau cyntaf ar Gofrestr y Deyrnas Unedig eu lansio yn www.unesco.org.uk/ukregister.


 


Dewiswyd yr enillwyr gan bwyllgor arbenigol rhaglen Cof y Byd yn y DU yn dilyn proses enwebu ac adolygu a ddechreuodd yn 2009.


 


“Roeddem yn falch tu hwnt o weld amrywiaeth a chyfoeth yr enwebiadau cyntaf ar gyfer y gofrestr,” meddai David Dawson, Cadeirydd Pwyllgor Cof y Byd yn y DU. "O ystyried hanes dogfennol cyfoethog y Deyrnas Unedig, rwy’n siŵr nad yw’r enillwyr hyn ond yn crafu’r wyneb. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddod yn rhan o’u harchifdai a’u hamgueddfeydd lleol.”


 


Caiff y deg eitem a chasgliadau hyn eu cydnabod yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 14 Gorffennaf mewn achlysur a gynhelir gan y Grŵp Seneddol Pob Plaid ar Archifau.


 


Mae’r rhaglen Cof y Byd yn y DU yn rhan o waith Comisiwn Cenedlaethol UNESCO yn y DU i hyrwyddo cadwraeth a mynediad at ddaliadau archifol a chasgliadau llyfrgelloedd y byd.


 


Dywedodd Harry Reeves OBE, Ysgrifennydd Cyffredinol y Comisiwn: “Mae'r rhain yn rhai o gyfoeth dogfennol eithriadol y DU, ond rhai nad ydynt mor adnabyddus.  Drwy ddyfarnu statws Cof y Byd UNESCO iddynt, rydym yn gobeithio helpu i roi’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu iddynt, yn y wlad hon a ledled y byd.”


 


Mae Cofrestri Cof y Byd i’w cael mewn gwledydd ym mhedwar ban byd, gan helpu i hyrwyddo treftadaeth ddogfennol sydd o bwysigrwydd lleol. Mae’r gofrestr ryngwladol yn rhestru eitemau sydd ag arwyddocâd byd-eang, ac mae eitemau o’r Deyrnas Unedig ynddi megis Magna Carta 1215, y Mappa Mundi a’r ffilm The Battle of the Somme. Gyda’i gilydd, y cofrestri hyn yw wyneb cyhoeddus rhaglen Cof y Byd UNESCO.


 


Caiff rownd nesaf yr enwebiadau ar gyfer Cofrestr y Deyrnas Unedig ei lansio yn Hydref 2010.


 


Dyma’r 10 a gofrestrwyd hyd yma yn gryno:


 

  • Yn ôl Rhanbarth: 4 o’r Alban; 2 o Gymru; 4 o Loegr.
  • Yn ôl Math: 2 ffilm; 3 llawysgrif/llyfr; 5 casgliad.

 


Dyma’r 10 eitem a chasgliad sy’n cael eu cofrestru ar Gofrestr Cof y Byd yn y Deyrnas Unedig:


 

  • Siartr y Brenin William I, tua 1067 (Corfforaeth Dinas Llundain) – ymddengys mai hon yw’r ddogfen frenhinol neu imperialaidd gyntaf sy’n gwarantu hawliau torfol preswylwyr unrhyw dref.
  • Llyfr Cyfrifon Cronfa Gymorth Peterloo (Prifysgol Manceinion) – cofnoda’r llyfr cyfrifon y taliadau a wnaed i’r rhai a anafwyd neu ddibynyddion y rheiny a laddwyd yng Nghyflafan Peterloo yn 1819, un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol hanes Prydain.
  • Cofnodion Gwasanaeth Gwirfoddol y Merched (WVS) ynghylch Rhagofalon Cyrchoedd Awyr, 1938 hyd at 1992 (WRVS) – sefydlwyd y WVS yn 1938 gan yr Arglwyddes Reading, ac erbyn 1943 roedd gan y mudiad fwy na miliwn o aelodau. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, trawsnewidiodd y WVS ei hun yn un o brif ddarparwyr gofal cymdeithasol, a cheid cyswllt annatod rhwng ei weithgareddau dros yr hanner can mlynedd dilynol a thwf y wladwriaeth les. Mae’r cofnodion hyn yn cynnwys adroddiadau gan ganolfannau WVS ledled y wlad, gan gynnig disgrifiad cyfoethog o un o’r mudiadau gwirfoddoli mwyaf yn hanes Prydain.
  • Llythyr gan George Stephenson at ei fab Robert, Chwefror 1827 (Swyddfa Gofnodion Lerpwl) - llythyr unigryw yn llaw George Stevenson at ei fab Robert a yrrwyd yn ystod cyfnod adeiladu rheilffordd gyntaf y byd i gario pobl, sef rhwng Lerpwl a Manceinion.
  • Casgliad Llawysgrifau Peniarth (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) - y casgliad pwysicaf o lawysgrifau a gasglwyd yng Nghymru, mae ynddo 561 o weithiau yn Gymraeg, Saesneg, Lladin, Ffrangeg a’r Gernyweg yn dyddio o’r 12fed ganrif hyd at y 19eg ganrif.

 


 

  • Cofnodion Company of Scotland Trading to Africa & the Indies 1695-1707 (Llyfrgell Genedlaethol yr Alban; Royal Bank of Scotland Group plc) – Mae'r llythyrau a’r dogfennau hyn yn dilyn hanes cynllun Company of Scotland i sefydlu trefedigaeth fasnachu ar guldir Darien yng Nghanolbarth America yn yr 1690au, ymgais feiddgar i sefydlu ymerodraeth yr Alban. Er gwaethaf cryfder ariannol y fenter, bu’n fethiant a gellid ei ystyried yn rhan o symudiad yr Alban tuag at uno â Lloegr yn 1707.
  • Hanes Bywyd David Lloyd George (Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru) –  Mae nifer o haneswyr ffilm wedi cyfeirio at y bywgraffiad ffilm hwn fel ‘darganfyddiad y ganrif’, ac mae’r ffilm hon o 1918 yn eitem unigryw yn hanes sinema Prydain yn ogystal â sinema’r byd. Credir mai dyma’r ffilm fawr fywgraffyddol gyntaf o wleidydd cyfoes byw. Yn rhyfedd iawn, ni chafodd y ffilm ei rhyddhau erioed.
  • Printiau Chepman a Myllar (Llyfrgell Genedlaethol yr Alban) – cyfrol sy'n cynnwys un ar ddeg o ddarnau printiedig gan gynnwys y llyfr dyddiedig cynharaf sydd wedi goroesi a argraffwyd yn yr Alban; lluniadau’r mapiwr arloesol Timothy Pont yn ogystal â gweithiau gan argraffwyr cyntaf yr Alban, sef Walter Chepman ac Andrew Myllar.
  • Mapiau Llawysgrif Timothy Pont (Llyfrgell Genedlaethol yr Alban) – yr arolwg topograffig a chorograffig cynharaf sydd wedi goroesi o’r Alban, yn dyddio o rhwng 1583 a 1614. Gyda’i gilydd maent yn rhoi cipolwg allweddol ar yr Alban yn y cyfnod modern cynnar. Mapiau llawysgrif Pont oedd asgwrn cefn Atlas cyntaf yr Alban, a gyhoeddwyd ym 1654.
  • Y ffilm St Kilda, Britain’s Loneliest Isle, 1923-1928 (Llyfrgell Genedlaethol yr Alban) – mae’r ffilm hon yn taflu goleuni ar un o gymunedau mwyaf anghysbell yr Alban yn y blynyddoedd yn union cyn y daeth y gymuned i ben. Mae’r ffilm 17 munud yn rhoi inni olygfeydd o gymuned oedd ar fin diflannu oherwydd gorfodwyd y boblogaeth fechan Aeleg ei hiaith i ymfudo yn Awst 1930, a rhoi diwedd ar bobl yn byw ar yr ynys ar ôl 2,000 o flynyddoedd.

 


I gael rhagor o wybodaeth am bob eitem, gan gynnwys lluniau, ewch i www.unesco.org.uk/ukregister.


DIWEDD


 


Er mwyn cael lluniau, neu i drefnu cyfweliad â Chomisiwn Cenedlaethol UNESCO yn y DU neu un o’r enillwyr, cysylltwch â:


 


Comisiwn Cenedlaethol UNESCO yn y DU – Ian White ar +44 (0)20 7766 3492; +44 (0)79 7922 7060 neu iwhite@unesco.org.uk.


 


 


Nodiadau i Olygyddion


 

  • Sefydlwyd rhaglen Cof y Byd UNESCO yn 1992 i hybu cadwraeth a mynediad at ddaliadau archifol a chasgliadau llyfrgelloedd y byd. Mae gweledigaeth y rhaglen yn un syml ond pwerus - mae treftadaeth ddogfennol y byd yn perthyn i bawb a dylid ei chadw a’i diogelu’n llawn i bawb, a, gyda chydnabyddiaeth briodol i arferion diwylliannol ac ystyriaethau ymarferol, dylai fod ar gael yn barhaol i bawb heb rwystr.

 


Sefydlwyd Cofrestr y Deyrnas Unedig o Gof y Byd yn 2010 i dynnu sylw at dreftadaeth ddogfennol sydd â phwysigrwydd diwylliannol penodol i'r DU. Caiff y Gofrestr ei rheoli gan Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO yn y Deyrnas Unedig ac mae’n ategu Cofrestr Ryngwladol Cof y Byd UNESCO, sef catalog o dreftadaeth ddogfennol o arwyddocâd byd-eang a gwerth eithriadol ledled y byd.



Yn ogystal â chadw Cofrestri, mae’r rhaglen Cof y Byd hefyd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddogfennol, gan dynnu sylw llywodraethau, y cyhoedd, busnesau a masnach at anghenion cadwraeth. Mae'r rhaglen hefyd yn codi arian ac yn darparu arbenigedd i gefnogi prosiectau cadwraeth mewn gwledydd sy'n datblygu, ac i archifau sydd mewn perygl.


 

  • Comisiwn Cenedlaethol UNESCO yn y DU yw canolbwynt y DU ar gyfer polisïau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag UNESCO. Fel corff annibynnol, mae Comisiwn Cenedlaethol y DU yn dwyn ynghyd rhwydwaith o bron i 250 o arbenigwyr ledled y Deyrnas Unedig ym meysydd addysg, diwylliant, y gwyddorau a chyfathrebu. Gan gydweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Ei Mawrhydi a chymdeithas sifil y DU, mae Comisiwn Cenedlaethol y DU yn darparu cyngor arbenigol i’r Llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud ag UNESCO a datblygu mewnbwn gan y DU i broses UNESCO o lunio polisïau a gweithredu rhaglenni, yn ogystal â hyrwyddo diwygiadau yn UNESCO, a hyrwyddo cefnogaeth yn y DU ar gyfer delfrydau a gwaith UNESCO.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012