Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Celfi Cymru 1250 – 1950

Wed, 27 Jun 07 12:09:00



Mae Cymru’n fyd-enwog am ei Dresel Cymreig, ond ai dyna’r unig gyfraniad gan Gymru i fyd celfi a chrefft? A fedrwn ni son am y fath beth ag ‘arddull Gymreig’ a beth am y gwahanol arddulliau rhanbarthol o fewn Cymru?



Dyma rai o’r cwestiynau caiff eu hateb yn llyfr hir-ddisgwyliedig, urddasol, 2 gyfrol Richard Bebb, 'Welsh Furniture 1250 - 1950 - A Cultural History of Craftsmanship and Design'. Cyhoeddir y llyfr gan Saer Books gyda chefnogaeth gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
v


Ysgrifennwyd y llyfr dros gyfnod o 16 mlynedd. Cynhwysa rhyw 1,500 darlun, y mwyafrif helaeth ohonynt mewn lliw a’r mwyafrif o’r rheini erioed wedi eu cyhoeddi o’r blaen. Cynhwysa rychwant eang o hanes Cymru o Oes y Tywysogion yn 1250 i’r cyfnod cyfoes yn 1950. Mae’r llyfr yn dilyn trywydd nifer o lyfrau pwysig eraill sydd wedi herio ein dealltwriaeth o gelf Gymreig.



Yn frodor o Gwm Rhondda, graddiodd Richard Bebb mewn Anthropoleg Cymdeithasol o’r London School of Economics. Yn 1970 ymsefydlodd yng Nghydwely gan ddechrau ei yrfa fel gwerthwr hynafolion yn arbenigo mewn celfi o Gymru.



‘Rwy wastad wedi fy hudo gan gyd-destun cymdeithasol a chartref celfi a dechreuais astudio'r arteffactau hynod yma tua 1990. Teithiais yn faith o amgylch Cymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau i astudio’r celfi a’r deunydd archifol mewn tai preifat a sefydliadau cyhoeddus,’ esboniodd Richard Bebb.



‘Mae gwaith Richard Bebb yn gampwaith o ddyfnder a manylder anhygoel. Dyma yw’r llyfr diffiniol a’r canllaw hanfodol i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc ac yn hanes cymdeithasol Cymru. Rwy’n hynod o falch fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cefnogi’r fenter hon a bod ein casgliad o luniau, arteffactau, archifau a chyhoeddiadau wedi chwarae rhan bwysig wrth ysgrifennu a chyhoeddi’r llyfr hwn,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.





Manylion:



Welsh Furniture 1250 – 1950 – A Cultural History of Craftsmanship and Design. (Saer Books, ISBN 978-0-9553773-1-0)



Dwy gyfrol tua 380 tudalen 11.5 mod (290 mm) gan 9.5 mod (240 mm) yr un.



Price:£150



Mae copiau ar werth yn siop y Llyfrgell neu arlein: siop.llgc.org.uk





Gwybodaeth Bellach: 



Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk



Gwefan Welsh Furniture: www.welshfurniture.com

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012