Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cadair Casgliadau Digidol – swydd newydd yn torri tir newydd

Mon, 26 Jul 10 15:53:00

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am unigolyn eithriadol i lenwi swydd newydd ac unigryw sy’n cael ei hariannu gan Brifysgol Cymru a’i lleoli yn y Llyfrgell. Mae’n darparu cyfle i wneud cyfraniad arloesol ym maes casgliadau digidol.

Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd arwain ac ymgymryd ag ymchwil yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf yn ei dd/dewis faes o arbenigedd, tra’n cymhwyso canfyddiadau at y casgliadau digidol helaeth a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd yn meddu ar broffil ymchwil diguro mewn agwedd arbennig o guraduriaeth ddigidol: creu, darparu, astudio, dehongli a gwarchod casgliadau digidol – yn cwmpasu materion cyfreithiol, rheoli data, dulliau ymchwil arloesol, a datblygiadau technolegol i gyrchu, chwilio a defnyddio.

Bydd yn meddu ar hanes rhagorol o gyhoeddi ac o ymwneud â’r cyhoedd, yn ogystal â phrofiad o ymchwil gydweithredol, gweithio mewn partneriaeth a chodi arian.

Mae hwn yn gyfle ardderchog i berson ymroddedig wneud cyfraniad nodedig i faes cynyddol bwysig.

Mae’r swydd yn cael ei chynnig am gyfnod o hyd at bum mlynedd.


Gwybodaeth bellach:

Disgrifiad swydd lawn

Cyswllt y wasg:
Elin-Hâf Williams, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012