Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Diolch – Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol

Mon, 06 Sep 10 10:41:00

Mae 2010 yn flwyddyn penblwydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn 30 oed. Yn ystod y tair degawd ddiwethaf mae’r Gronfa wedi diogelu miloedd o drysorau treftadaeth eiconig ar gyfer y genedl a oedd mewn perygl o fynd ar ddifancoll. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o’r lliaws o dderbynwyr sy’n falch a diolchgar am gefnogaeth Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.


Yn ei rôl fel ‘cyllidwr pan fetha popeth arall’, mae Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Gaenedlaethol wedi darparu nawdd hanfodol sydd wedi galluogi’r Llyfrgell i gael gafael ar nifer o gasgliadau pwysig sy’n rhan annatod o hanes a diwylliant Cymru. Hyd yma, mae’r Llyfrgell wedi derbyn cyfanswm o £957,315 ar gyfer 10 o brosiectau caffael. Y prosiectau caffael oedd:


 

  • Caffael prif archif papurau’r artist Augustus John (1878-1961). Grant a ddyfarnwyd: £66, 000 ar 24 Mawrth 1988.
  • Caffael casgliad o lawysgrifau llenyddol Cymraeg a Saesneg canoloesol o ystad Brogyntyn (Porkington gynt). Grant a ddyfarnwyd: £199, 915 ar 17 Rhagfyr 1992.
  • Caffael cyfrolau rhwymedig a gwniedig a phapurau rhyddion yn ymwneud â Robert Clive, y Barwn Clive o Plassey cyntaf (1725-74) a’i fab Edward yn ogystal â phapurau yn ymwneud â’r Arglwydd Carnac. Grant a ddyfarnwyd: £65, 000 ar 22 Tachwedd 1995.
  • Caffael papurau o Goed-y-maen yn cynnwys papurau a) Syr Williams Williams (y Llefarydd Williams, 1634-1700) a b) Charles Watkin Williams-Wynn (1775-1850), gwleidydd. Grant a ddyfarnwyd: £23, 000 ar 28 Mehefin 1990.
  • Papurau’r artist David Jones CB CBE (1895-1974). Grant a ddyfarnwyd: £40, 000 ar 26 Medi 1985.
  • Caffael casgliad o ohebiaeth, nodiadau a brasluniau o 1903-1939, sef y cyfnod y bu’r artist, Gwen John, yn bwy yn Ffrainc. Grant a ddyfarnwyd: £50, 000 ar 27 Medi 1984.
  • Caffael papurau a nodiadau ar gyfer anerchiadau o 1890-1915 gan y gwleidydd, David Lloyd George. Grant a ddyfarnwyd: £37, 000 ar 26 Chwefror 1987.
  • Caffael papurau William George (1865-1967), brawd iau David Lloyd George. Grant a ddyfarnwyd: £204, 500 ar 27 Gorffennaf 1989.
  • Caffael Archif Ystad Wynnstay (yr ystad fwyaf yng Nghymru) o’r 12fed i’r 15fed ganrif a Llawysgrifau Wynnstay – archif yn cynnwys gweithredoedd a siarter yn dyddio o’r 12fed hyd y 15fed ganrif, llenyddol a chyfreithiol yn bennaf, gan gynnwys llawysgrif o Gyfreithiau Hywel Dda. Grant a ddyfarnwyd: £218, 000 ar 31 Ionawr 2001.
  • Caffael map proflen nas cofnodwyd o Gymru, tua 1580, gan Christopher Saxton. Cynnyrch arolwg topograffig Saxton o Gymru a Lloegr (1573-1578). Grant a ddyfarnwyd: £53, 000 ar 24 Gorffennaf 1986.

 


Dymunodd Andew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dda i Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol ar ei degfed penblwydd ar hugain:


‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dra diolchgar am y gefnogaeth ariannol a’r ymrwymiad craff i’r diwylliant Cymreig sydd wedi deillio o Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol. Mae wedi bod yn gronfa amhrisiadwy ar gyfer datblygiad a dealltwriaeth o waith y Llyfgell ac o hanes eangach Cymru.’


 


 


Sefydlwyd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol i ddarparu grantiau a benthyciadau er mwyn helpu i gaffael teftadaeth fwyaf gwerthfawr y DU a oedd mewn perygl o ddiflannu, yn gofeb barhaol i’r rhai oedd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad. Yn hytrach na chodi cofebau newydd, mae’r Gronfa yn diogelu holl adeiladwaith y genedl, ein treftadaeth, yn gofeb barhaol sydd wedi ei chysegru i’r dynion a’r merched sydd wedi offrymu’r aberth uchaf er mwyn amddiffyn eu gwlad.


 


 


Yn ystod y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf mae wedi dyfarnu dros £298.3 miliwn er mwyn helpu i grynhoi a diogelu casgliad cenedlaethol cwbl arbennig sy’n amrywio o dai, cofebau a gwaith celf hanesyddol i dreftadaeth ddiwydiannol ac arforol a thirluniau eiconig.


 


 


Meddai’r Fonesig Jenny Abramsky, Cadeirydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol: ‘Mae Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, gan ddiogelu amrywiaeth wirioneddol eithriadol o drysorau sy’n rhan o’n hunaniaeth genedlaethol ac sy’n parhau’n gofeb deilwng a pharhaol i’r rhai a fu farw dros y Deyrnas Unedig. Mae llawer iawn o bethau i’w mwynhau ac i ymfalchio ynddynt, ond rydyn ni’n ymwybodol bod amseroedd heriol o’n blaenau. Fe ymdrechwn hyd yr eithaf i fwrw ymlaen â’r gwaith o fuddsoddi yn y dreftadaeth hollbwysig ac amhrisiadwy, ac a fyddai’n amhosibl ei hadfer pe’i collid.’


 


 


Nodyn i’r Golygydd


Detholiad o’r ystod amrywiol o dros 1,200 o wrthrychau a lleoedd eiconig y mae Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol wedi eu diogelu dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf:


 

  • Sallwyr Macclesfield
  • Casgliad Dyffryn Efrog
  • Torch Newark
  • Y Mappa Mundi
  • Tŷ Dumfries
  • The Three Graces gan Antonio Canova
  • Ynys Sgogwm, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Sir Benfro
  • Diana and Actaeon gan Titan
  • Casgliad Anthony d’Offay
  • Archif Broadlands
  • Llosgydd Persawr Casgliad Werner
  • ‘Pot of Gold’ Milton Keynes
  • Creirfa Sebastian Sant
  • Penrhyn Orford
  • Y Blwch Becket
  • Melin Rhawiau Patterson, Swydd Antrim
  • Lady with a Squirrel and Starling gan Holbein
  • The Waterloo Dispatch
  • Glofa Arddangos Beamish

 


Gwybodaeth bellach a lluniau


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg, Llyfrgell Genedlasethol Cymru: 01970 632 902 post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012