Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lansio Gwyl Fflics - Clasuron Sgrin Cymru

Tue, 26 Jun 07 14:24:00



Bydd gŵyl ffilm newydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth rhwng 25 a 28 Hydref 2007.  Bydd Fflics – Clasuron Sgrin Cymru yn Ŵyl bedwar diwrnod yn dathlu hanes y sinema yng Nghymru a hefyd y Cymry ar y sgrin fawr: o’r arloeswyr cynnar hyd at ddiwedd y cyfnod nitrad.



Mae Fflics yn gynllun ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a bydd yn cynnwys dros 30 o ffilmiau a gynhyrchwyd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda thrafodaethau, perfformiadau cerddorol byw a sawl digwyddiad arbennig.  Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys dangosiad o’r ffilm adferedig ‘How Green Was My Valley’, premier fersiwn newydd o’r ‘Chwarelwr’, a dangosiad gala o ‘The Life Story of David Lloyd George’, a llawer, llawer mwy o glasuron o’r cyfnod.



Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ‘Bydd Fflics yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad Cymru i ddyddiau cynnar sinema, ac i weld y ffilmiau ar y sgrin fawr; eu priod le.  Rydym yn hyderus y bydd yr Ŵyl yn apelio at ystod eang o bobl – o’r dilynwyr ffilm brwd i’r rhai sy’n mwynhau ffilmiau nas gwelir yn aml ar y sgrin fawr, i’r rhai sy’n awyddus i weld ochr hanesyddol ar Gymru yn hanner cynta’r ganrif.  Bydd yn bedwar diwrnod hynod ddiddorol.



Mae Fflics yn gyfle i weld a thrafod clasuron nad ydynt fel arfer yn cael eu dangos, gan gynnwys:



How Green Was My Valley * Proud Valley * Silent Village * The Corn is Green * Jerry The Tyke * Blue Scar * Valley of Song * The Citadel * Fame is the Spur* Dead of Night * Y Chwarelwr * Run for your Money * The Rat * Shop at Sly Corner * Stars Look Down * Call of the Blood * The Life Story of David Lloyd George * Next of Kin * David * The Last Days of Dolwyn* The Life and Death of Colonel Blimp * a ffilimau byr gan Arthur Cheetham 



Mae Gwefan yr Ŵyl nawr yn fyw, a bydd ychwanegiadau ati fel bydd y trefniadau yn cael eu cadarnhau.  Mae Tocynnau Aur, fydd yn sicrhau mynediad i bob un digwyddiad ar werth, gyda chynnig arbennig i’r sawl sy’n archebu’n fuan.  Am yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i www.fflics.co.uk





Am ragor o fanylion am Ŵyl Fflics cysylltwch â:



 


Llinos Medi Jones: 01970 632 534  lmj@llgc.org.uk



Siôn Jobbins: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012