Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llyfrgell Genedlaethol yn Mynd i Wrecsam

Wed, 22 Sep 10 16:58:00

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn symud i Wrecsam yr hydref hwn! Bydd cyfle gan drigolion y dre i fwynhau: diwrnod agored hanes teulu; sgrinio ffilm enwog Paul Robeson, 'Proud Valley'; cyfle i ddod a'u casgliadau eu hunain i'w digido a'u gosod arlein ar y wefan newydd www.casgliadywerincymru.co.uk; gweithdai i blant ac arddangosfa o hen ffotograffau o Wrecsam.


 


Er bod y Llyfrgell wedi cynnal digwyddiadau undydd blynyddol y tu allan i Aberystwyth yn y gorffennol, eleni bydd yn adeiladu ar ei strategaeth newydd o drefnu cyfres o ddigwyddiadau dros 2 fis. Y llynedd yr hen gwm glofaol, Cwm Gwendraeth ger Llanelli, a ddaeth yn ‘gartref oddi cartref’ i’r Llyfrgell; eleni Wrecsam fydd yn estyn croeso i’r Llyfrgell Genedlaethol i gynnal ei 2 fis o ddigwyddiadau yn yr Hydref.


 


Fel rhan o'i gwaith i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl o bob cefndir o gasgliadau'r Llyfrgell, bu’r sefydliad yn cydweithio ag awdurdodau lleol yn y dref. Mae'r Llyfrgell yn ddiolchgar am gydweithrediad parod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y gyfres hon o ddigwyddiadau diddorol.



Mae’r Llyfrgellydd, Andrew Green, pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol, yn edrych ymlaen at yr arlwy o ddigwyddiadau yn Wrecsam.


 


‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eiddo i bobl Cymru oll ac mae’n hynod bwysig, a chyffrous i ni, deithio allan o Aberystwyth ac ymweld â phob cwr o Gymru. Eleni Wrecsam, tref sydd ag iddi ran bwysig yn hanes Cymru fydd ein cartref ni am dros ddau fis - rydym yn edrych ymlaen!’


 


Amserlen


7 Hydref - Ffilm: Proud Valley yn Sinema’r Odeon, 19:30


 


12 Hydref – Beth yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru?, Ysgol Morgan Llwyd, 19:00


 


2 Tachwedd - Beth sy’n yr Atig? Dewch i weld gwefan newydd a dwedwch eich stori chi, www.casgliadywerincymru.co.uk, Llai, 10:00 - 16:00


 


11 Tachwedd – Noson Agored: Llywydd LlGC, Dafydd Wigley, yn arwain noson o sgyrsiau a chyflwyniadau, Guildhall Wrecsam, 18:30


 


11 Tachwedd – Yn dilyn y Noson Agored, Lansiad Arddangosfa ‘Hen Luniau o Wrecsam’ yn Llyfrgell Wrecsam 20:00


 


13 Tachwedd – Diwrnod Agored Hanes Teulu a Hanes Lleol, Coleg Iâl 10:00 – 15:00


 


 


Gwybodaeth Bellach


Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan: www.llgc.org.uk/wrecsam10 neu cysylltwch â Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 


 


Nodiadau i’r Golygydd


Dathlodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae ei chasgliadau yn cynnwys:


 

  • 5,000,000 o lyfrau a deunydd printiedig
  • 1,500,000 map
  • 800,000 ffotograff
  • 150,000 awr o recordiadau sain  
  • 250,000 awr o ddelweddau symudol
  • 25,000 llawysgrif prin
  • 50,000 trysorau celf 

 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012