Thu, 30 Sep 10 14:00:00
Oes yna unrhyw un yn cofio Islwyn Roberts, Llanbedr, Sir Feirionydd, a fodiodd ei ffordd rownd y byd, yn dal arwydd â ‘Pays de Galles’ arno? Beth oedd ei hanes, oes gennych ffotograffau o’i deithiau, neu efallai gardiau post neu recordiad o’i atgofion? Os gwyddoch unrhyw beth amdano, neu efallai eich bod yn perthyn iddo, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i glywed wrthych.
Cynhelir arddangosfa fawr ar thema teithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 16 Hydref 2010 ymlaen. Un o brif ddelweddau hyrwyddo Byd Bach – Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt yw’r ffotograff trawiadol o Islwyn a dynwyd gan Geoff Charles ac a ymddangosodd yn Y Cymro ar 12 Mehefin 1958.
‘Mae’r ffotograff o Islwyn Roberts yn un hyfryd, llawn hwyl, sy’n dangos awch un person o gefn gwlad Cymru i godi ei bac a theithio’r byd - byd oedd mor wahanol i’n byd ni heddiw; cyfnod y Rhyfel Oer, twf cenedlaetholdeb yn Affrica ac Asia. Mae’n siwr nad oedd modd iddo deithio i nifer o wledydd megis yr hen wledydd Sofietaidd a byddai hedfan mewn awyren yn costio ffortiwn. Bydd clywed rhagor am hanes Islwyn a’i deithiau o ddiddordeb mawr i’r Llyfrgell,’ meddai Carys Mai Lloyd, curadur arddangosfa Byd Bach.
'Bydd y llun o Islwyn yn ymddangos ar bosteri, baneri stryd a bysiau a hysbysebion ar hyd a lled Cymru. Dros hanner can mlynedd wedi cyhoeddiad y ffoto, bydd wyneb Islwyn yn dod yn un cyfarwydd iawn i bobl yr oes hon hefyd,' meddai.
Cynhelir Byd Bach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 16 Hydref 2010 a 2 Ebrill 2011. Bydd yn cynnwys mapiau hynafol gan Humphrey Lhuyd a John Speed, dyddiaduron mordaith i Batagonia, posteri rheilffordd a llythyrau gan Edward Peet a ymfudodd i Ohio yn 1868, ymysg ffotograffau difyr o gasgliadau Geoff Charles a John Thomas, fydd yn tynnu sylw arbennig at gasgliadau teithio unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Digwyddiadau ar Thema Teithio yn LlGC
Bydd sawl digwyddiad ar thema teithio yn y Llyfrgell. Maent yn cynnwys sgyrsiau gan Jan Morris, Bethan Gwanas a Mike Parker. Bydd Liz Pitman yn rhoi sgwrs ar ‘Pigsties and Paradise’; Michael Freeman ar ‘Comments on Peasant Life in Ceredigion a Huw Thomas as gasgliadau mapiau’r Llyfrgell.
Cymru a’r Byd fydd thema gŵyl Ffotograffiaeth Lens y Llyfrgell a gynhelir ar 19 a 20 Tachwedd 2010.
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk
Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa a diwyddiadau perthnasol gweler tudalen arddangosfa Byd Bach.