Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Penodi Lorna Hughes i Gadair Casgliadau Digidol cyntaf y byd

Mon, 11 Oct 10 16:04:00

Penodwyd Lorna Hughes, sydd ar hyn o’r bryd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Canolfan e-Ymchwil yn King’s College Llundain, i swydd sy’n torri tir newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hi fydd deilydd Cadair academaidd Casgliadau Digidol - y cyntaf o’i fath yn y byd. Ariennir y swydd gan Brifysgol Cymru a dyma’r gadair academaidd gyntaf i’w sefydlu mewn unrhyw lyfrgell genedlaethol yn y byd.

Mae gan Lorna ugain mlynedd o brofiad ym meysydd ymchwil a threfnu gwybodaeth ddigidol, gan weithio ym mhrifysgolion Glasgow, Rhydychen, Arizona, Efrog Newydd a Llundain. 

Bydd Lorna yn ymgymryd â gwaith arwain ymchwil academaidd ar yr adnoddau digidol diweddaraf gan wneud defnydd o’r casgliad digidol sylweddol sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gwaith yma’n cwmpasu creu, cyflenwi, ymchwilio, dadansoddi a chadwraeth casgliadau digidol gan gynnwys materion cyfreithiol, rheolaeth data, ffyrdd ymchwilio blaengar a datblygiadau technolegol ym maes mynediad, chwilio a defnydd.

Dywed Lorna, ‘Rwy’n falch iawn i ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ag enw da yn fyd-eang yn ogystal â chasgliadau pwysig iawn. Mae gan LlGC gasgliadau digidol anhygoel ac mae wedi cymryd agwedd strategol tuag at ddigido dros y blynyddoedd diwethaf. Gobeithiaf ddatblygu nifer o brosiectau ymchwil newydd yn ymwneud â chreu a rheoli casgliadau digidol. Rwy hefyd yn frwd iawn i ddatblygu cydweithio a phartneriaethu yn Brydeinig ac yn rhyngwladol.’
 
Mewn sawl ffordd bydd Lorna’n dychwelyd i’w gwreiddiau wrth ymgymryd â swydd Cadair Casgliadau Digidol.

‘Cymro oedd fy nhad-cu. Bu’n ddeintydd yn Glasgow yn yr 1930au ond yn anffodus bu farw blynyddoedd cyn i mi gael fy ngeni. Rwy wedi fy ysbrydoli i ganfod peth o’m gwreiddiau Cymreig ac yn edrych ymlaen yn fawr i symud i Orllewin Cymru,’ ychwanegodd.

Mae Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, yn edrych ymlaen at groesawu Lorna i’w swydd newydd yn Aberystwyth.

‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i apwyntio person o allu ac arbenigedd Lorna. Gobeithiwn y caiff ei hysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell a thu hwnt. Rwy’n siŵr y bydd yn gallu dod â’i brwdfrydedd a phrofiad at ei gilydd er budd ehangu ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o gasgliadau sydd wedi eu digido neu sydd eto i’w digido at sylw a budd y Byd,’ meddai Andrew Green.

Ategodd Yr Athro Marc Clement, Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru ei bleser ar apwyntiad Lorna hefyd.

‘Mae Prifysgol Cymru wrth eu bodd i chwarae rhan ganolog drwy greu’r swydd athrawol hon. Rwy’n sicr y daw’r Athro Hughes â’r cyfuniad perffaith o brofiad a brwdfrydedd i arwain gwaith fydd yn torri tir newydd yn natblygiad technolegol y Llyfrgell.’




Am wybodaeth bellach a delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012