Thu, 14 Oct 10 11:12:00
Bydd replica o lawysgrif hynafol yn cael ei arddangos i blant ysgol fel rhan o gyfres o weithdai sy’n cael eu cynnal yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yn ystod hanner cyntaf Hydref 2010. Bydd y gweithdai sy’n cael eu cynnal gan Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Wrecsam yn canolbwyntio ar Lawysgrif o’r 13 Ganrif sef Peniarth 28. Mae’r llawysgrif yn cynnwys y cofnod cynharaf a oroesodd o Gyfreithiau Hywel Dda. Cafodd y cyfreithiau hyn eu cyfundrefnu a’u hysgrifennu yn y flwyddyn 945 gan Frenin Cymru, Hywel ap Cadell (Hywel Dda).
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn Ysgol Morgan Llwyd, i ddisgyblion Blwyddyn 7 yr ysgol ei hun ac i blant ysgolion cynradd ardal Wrecsam. Byddent yn canolbwyntio ar Gymru a’r Oesoedd Canol, ac yn bennaf ar ddylanwad cyfreithiau Hywel Dda ar hanes Cymru yn ystod y cyfnod.
Yn ogystal â replica o’r llawysgrif, bydd y plant fydd yn mynychu’r gweithdai yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys papurau newydd, mapiau, llyfrau, peintiadau, ffotograffau yn ogystal â’r cyfrifiad mewn gweithgareddau ymarferol, a byddent yn cael y cyfle i weld ffilmiau gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Meddai Owen Llywelyn, Prif Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Amgueddfa Wrecsam ac i Ysgol Morgan Llwyd am eu cefnogaeth wrth drefnu’r gyfres o weithdai. Mae llawysgrif Cyfreithiau Hywel Dda yn drysor cenedlaethol, ac mae’n holl bwysig fod plant ifanc Wrecsam ac ardaloedd eraill Cymru yn cael y cyfle i ddysgu am eu hanes gyda chymorth adnoddau fel hyn.’
‘Rydym yn hapus iawn i groesawu’r Llyfrgell Genedlaethol, un o sefydliadau mawr Cymru i Ysgol Morgan Llwyd. Mae wedi galluogi i blant yr ysgol a rhai o ysgolion cynradd eraill Wrecsam gael cyfle amhrisiadwy i ddysgu am eu hanes a’u diwylliant gyda chymorth adnoddau ac arddangosfa gyffrous.’
Ychwanegodd Huw Foster Evans, Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd.
Lluniau o Peniarth 28, Cyfreithiau Hywel Dda ar Drych Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r gweithdai sy’n cael eu cynnal yn Ysgol Morgan Llwyd yn rhan o gynllun Estyn Allan y Llyfrgell sy’n digwydd rhwng Hydref a Thachwedd 2010.
Nodiadau i’r Golygydd
Y Llawysgrif: Llawysgrif sy'n cynnwys copi Lladin o Gyfreithiau Hywel Dda yw Peniarth 28. Mae'n perthyn i un o gasgliadau craidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llawysgrifau Peniarth, y daeth y mwyafrif ohonynt o lyfrgell yr hynafiaethydd Cymreig enwog Robert Vaughan, (1592?-1667), o Hengwrt ger Dolgellau. Mae'r llawysgrif yn cynnwys pum ffolio ar hugain o femrwn ac yn mesur 190 x 145 mm. (maint ysgrifenedig c. 145 x c. 115 mm.).
Cyfreithiau Hywel Dda: Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950) sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg.
Gwybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, 01970 632 902 post@llgc.org.uk