Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Twrio hanes eich teulu

Thu, 14 Oct 10 12:47:00

Oes gennych chi stori ddifyr yn hanes eich teulu chi? Hoffech chi wybod mwy am eich cyndeidiau? Ydych chi’n awyddus i ddysgu sut i hel achau?



Mewn diwrnod arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth bydd cyfle i chi rannu eich hanesion gyda chriw cyfres newydd ar S4C o’r enw Perthyn.



Rhwng 12:00 a 17:00 prynhawn Sadwrn 30 Hydref bydd criw Perthyn a gweithwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal digwyddiad arbennig fydd yn gyfle i chi rannu eich stori a dysgu mwy am sut i fynd ati i chwilio am hanes eich teulu.



Bydd y gyfres Perthyn yn mynd ar drywydd hanesion difyr gan ganolbwyntio ar stori un teulu ym mhob rhaglen. Mi fydd hefyd yn rhannu cyngor a syniadau ar sut y gallwch chi fynd ati i dwrio am hanes eich perthnasau. Pwy a ŵyr, efallai bydd helyntion eich cyndeidiau yn cael eu gweld ar S4C?



Mae gan Gymry obsesiwn gyda’u gwreiddiau, dy’n ni’n enwog am holi “un o ble wyt ti?” neu “i bwy wyt ti’n perthyn?” Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn cael ei chydnabod fel y brif ganolfan ar gyfer ymchwilio i achau’r Cymry ac mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â’r llyfrgell bob blwyddyn i ddarganfod mwy am eu gwreiddiau.



Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mi fydd y diwrnod yn cael ei ffilmio ar gyfer y gyfres. Dewch ac unrhyw luniau, dogfennau, coed teulu neu unrhyw ffynonellau perthnasol gyda chi. Mi fydd gweithwyr y Llyfrgell wrth eu bodd yn eu gweld.



Ymhlith y Siaradwyr Gwadd bydd Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley.



Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad


Cysylltwch â Luned neu Caryl yn Rondo Media ar perthyn@rondomedia.co.uk neu 02920 223 456.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012