Mon, 25 Oct 10 14:45:00
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd yn agor arddangosfa Byd Bach: Teithiau yng Nghymru a Thu Hwnt yn swyddogol ar ddydd Mercher 27 Hydref 2010.
Mae’r arddangosfa eisoes wedi denu llawer o sylw wrth i bobl ar hyd a lled y byd ymateb i gais y Llyfrgell Genedlaethol am ragor o wybodaeth am Islwyn Roberts – y dyn a fodiodd o gwmpas y byd. Defnyddir ffoto o Islwyn, a ymddangosodd yn wreiddiol yn Y Cymro yn 1958, ar lenyddiaeth hyrwyddo’r arddangosfa. Mae’r Llyfrgell bellach wedi clywed gan bobl ardal Ardudwy lle'r oedd Islwyn yn byw a thu hwnt gyda’u hatgofion amdano. Gwnaeth curadur yr arddangosfa, Carys Mai Lloyd, gyfweliad ar wasanaeth radio cyhoeddus Canada, CBC, amdano ac mae pobl cyn-belled â Phatagonia yn ei gofio yn ymweld â nhw.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn hynod falch fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cytuno i agor arddangosfa fawr y Llyfrgell. Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol;
‘Fel rhan o strategaeth y Llyfrgell mae’n fwriad gennym gynnal un arddangosfa fawr flynyddol fydd yn apelio at y cyhoedd yn lleol a thu hwnt. Mae’r arddangosfa yma hefyd yn cyd-fynd â gwaith cwrs mewn ysgolion cynradd ac yn dangos amrywiaeth eang ein casgliadau. Yn ogystal â’r arddangosfa mae cyfres o ddigwyddiadau a siaradwyr wedi eu trefnu i gyd-fynd â’r thema. Mae’r arddangosfa felly wedi bod yn fuddsoddiad mawr ar ran y Llyfrgell a chredwn ei bod ond yn weddus fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cytuno i’w hagor – gwerthfawrogwn ei ddiddordeb.’
Ategodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones,
‘Mae’n bleser cael bod yma heddiw i agor yr arddangosfa ddiddorol hon. Mae’r arddangosfa’n un rhagorol sydd nid yn unig yn rhoi cipolwg ar hanes teithio drwy’r canrifoedd, ond hefyd ar y bobl a’u diwylliant. Mae hefyd yn gyfle euraidd i ni bori trwy gasgliadau cyfoethog ac amrywiol ein Llyfrgell Genedlaethol.’
Cynhelir Byd Bach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 16 Hydref 2010 a 2 Ebrill 2011. Mae’n cynnwys mapiau hynafol gan Humphrey Lhuyd a John Speed, dyddiaduron mordaith i Batagonia, posteri rheilffordd a llythyrau gan Edward Peet a ymfudodd i Ohio yn 1868, ymysg ffotograffau difyr o gasgliadau Geoff Charles a John Thomas. Mae hefyd modd i ymwelwyr eistedd mewn hen gar, gwylio ffilm tu fewn i gorff awyren neu tu ôl i hen fws!
Digwyddiadau ar Thema Teithio yn LlGC
Bydd sawl digwyddiad ar thema teithio yn y Llyfrgell. Maent yn cynnwys sgyrsiau gan Jan Morris, Bethan Gwanas a Mike Parker. Bydd Michael Freeman yn siarad ar ‘Comments on Peasant Life in Ceredigion’ a Huw Thomas ar gasgliadau mapiau’r Llyfrgell. Ymwelwch a thudalen Arddangosfa Byd Bach am restr llawn o'r digwyddiadau ar y thema teithio.
Cymru a’r Byd fydd thema Gŵyl Ffotograffiaeth Lens y Llyfrgell a gynhelir ar 19 a 20 Tachwedd 2010.
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk