Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Adolygiad o flwyddyn LlGC 2009-10

Wed, 27 Oct 10 12:39:00

Dwy filiwn o bunnoedd i ddigido papurau newydd a chylchgronau Cymru G19; ailagor Ystafell Ddarllen y Gogledd ar ei newydd wedd; trefnu dau fis o ddigwyddiadau y tu allan i Aberystwyth - dyma ond rhai o’r uchafbwyntiau a amlinellir yn Adolygiad y Flwyddyn 2009-10, a gellir ei darllen arlein.

Roedd y flwyddyn yn sicr yn un bwysig yn ymdrechion parhaus y Llyfrgell Genedlaethol i wella ei gwasanaethau i ddarllenwyr ac ymwelwyr a’r modd y mae’n casglu, storio a rhannu ei thrysorau.

Roedd y grant o £2m gan Lywodraeth y Cynulliad i ddigido papurau newydd a chylchgronau Cymru yn un o’r prosiectau mwyaf cynhyrfus yn hanes diweddar y Llyfrgell ac yn un o’r cynlluniau digido mwyaf uchelgeisiol a welwyd erioed yng Nghymru. Dangosodd Ystafell Ddarllen y Gogledd a agorwyd ar ei newydd wedd gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, ym mis Medi 2009, y ffordd newydd o feddwl a ddatblygwyd gan y Llyfrgell wrth ymateb i anghenion darllenwyr. Mae’r cynllun a’r adnoddau wedi eu dylunio fel bod gweithio yn y Llyfrgell yn bleserus a buddiol. Am y tro cyntaf erioed estynnodd y Llyfrgell ei ‘chyfarfod estyn’ blynyddol o ddeuddydd y ddau fis. Trefnwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau llwyddiannus yng Nghwm Gwendraeth rhwng mis Medi a Thachwedd 2009. Roeddynt yn cynnwys; arddangosfa, prosiectau gydag ysgolion, creu ffilm, sgrinio ffilm, noson hel achau a chyfarfodydd gyda chlybiau a chymdeithasau lleol.

Ymysg y ffeithiau diddorol am y flwyddyn mae’r ffaith i’r Llyfrgell dderbyn bron i 8,000 o ymholiadau, 80,000 o ymwelwyr a darllenwyr, 397 ymweliad gan grŵp a dros filiwn o ddefnyddwyr rhwydwaith allanol.

Mae Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn hynod o falch o allu’r Llyfrgell i addasu i natur cymdeithas sy’n newid y sydyn a’r ffyrdd mae pobl Cymru a’r byd am wneud defnydd o adnoddau a chasgliadau’r Llyfrgell.

‘Yn y cyfnod ansicr yr ydym yn byw ynddi mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Hyderaf fod yr adolygiad yma o 2009-10 yn tanlinellu’r ffaith ein bod ni’n ceisio darganfod ffyrdd newydd o ddatblygu’n cennad oesol.’

‘Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones;

‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o sefydliadau diwylliannol ac addysgiadol bwysicaf Cymru ac fe’i cydnabyddir hi fel canolfan ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol. Dangosa’ adroddiad yma eu bod yn parhau i ddatblygu a chanfod ffyrdd newydd i roi gwasanaeth i bobl ac mae’r niferoedd sy’n ymweld â’r llyfrgell yn gorfforol neu ar-lein yn galonogol.’

Am wybodaeth bellach a delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk


Golud Chwiliadwy: Adolygiad o'r flwyddyn 2009-10


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012