Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Ffilmiau Archif ar Sgrîn Fawr Caerdydd

Fri, 29 Oct 10 12:28:00

Bydd siopwyr a cherddwyr yng nghanol y brifddinas yn gallu mwynhau cip olwg ar yr hen Gaerdydd. Gan ddechrau'r wythnos hon dangosir ffilmiau archif o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar sgrin fawr y BBC a leolir y tu allan i Neuadd Dewi Sant.


 


Dangosir chwe ffilm archif o’r casgliad a byddant yn cynnwys delweddau o bwll nofio’r Empire Pool yn 1968, a adeiladwyd ar gyfer Gemau’r Ymerodraeth yn 1958, a ffilm o ardal y dociau yn yr 1940au. Y clipiau ffilm eraill bydd canol Caerdydd yn yr 1930au sy’n cynnwys siopau Heol y Frenhines, yr Amgueddfa Genedlaethol a ffilm o’r bysiau, tramiau a threnau oedd yn gweithio’r cyfnod hynny.


 


Lleolir yr Archif Sgrin a Sain o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae’n gartref i gasgliad cynhwysfawr a digymar o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth sy’n perthyn i Gymru neu o ddiddordeb Cymreig.


 


Dywed Anwen Pari Jones ar ran Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru;


 


‘Mae’n wych fod ffilmiau o’n casgliadau nawr i’w gweld ar y sgrin fawr. Rwy’n gobeithio y gwneith pobl sy’n pasio cymryd hoe i’w gwylio gan roi cip olwg i orffennol Caerdydd a hefyd diddordeb yn ffilmiau’r Archif. Rydym wastad yn edrych ar ffyrdd o rannu’n casgliadau ac mae hwn yn llwyfan gwych.’


 


Dywed y Cyngh. Nigel Howells, Aelod Pwyllgor Gwaith Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant Cyngor Caerdydd;


 


‘Mae defnyddio’r sgrin fawr yn ffordd wych i arddangos Caerdydd a dweud hanes y ddinas wrth drigolion ac ymwelwyr. Mae’n deimladwy iawn gweld hen ffilm o’r ddinas yn cael ei dangos ynghanol datblygiadau cyfoes Dewi Sant.’


 


Bydd y ffilmiau i’w gweld o’r wythnos hon.


 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y ffilmiau neu am Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ewch at www.archif.com neu cysylltwch â:


 


Anwen Pari Jones: 01970 632 535


Sion Jobbins: 01970 632 902 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012