Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cywyddau Beirdd Pwysig Arlein

Wed, 10 Nov 10 16:17:00

Mae cyfrol o waith rhai o feirdd amlycaf Cymru y canol oesoedd a gopïwyd gan ŵr o ardal Harlech a symudodd i Ddarowen ym Maldwyn, nawr ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Brodor o gyffiniau Harlech oedd Wmffre Dafis. Roedd yn fab i Dafydd ap Gruffudd, a dywedir ei fod yn disgyn o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Bu'n ficer Darowen, sir Drefaldwyn, o 1577 hyd ei farwolaeth yn 1635. Roedd gan feirdd y cyfnod gryn dipyn o barch tuag ato a chanwyd cywyddau iddo gan Rhisiart, Siôn a Gruffudd o deulu Phylipiaid Ardudwy, ac hefyd gan Ieuan Tew Brydydd o Arwystl, ac Evan Lloyd o Waun Einion.
 
Copïodd Wmffre Dafis y llawysgrif hon yn 1599 ar gyfer Dr. Theodore Price (1570?-1631), nai i'w wraig, sef Sioned ferch Edward Stanley.
 
Pan anfonwyd y gyfrol hon o farddoniaeth ato yn 1599, roedd Theodore Price yn offeiriad yn Bletchingley, swydd Surrey ac yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Fel nifer o Gymry alltud ei genhedlaeth, gwerthfawrogai'r rhodd o farddoniaeth Gymraeg.

Ceir 574 dalen yn y llawysgrif , ac fe'i hailrwymwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif mewn croen mochyn. O ran cynnwys, ceir esiamplau o waith dros gant o feirdd yn y gyfrol, ac yn fwyaf amlwg yn eu plith mae: Tudur Aled, William Llŷn, Siôn Ceri, Siôn Cent, Siôn Tudur, Lewis Glyn Cothi, Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd a Ieuan Deulwyn

Bu Price farw yn Rhagfyr 1631 ond ni wyddom sut yr aeth ei gyfrol i Blas Brogyntyn, ger Croesoswallt. Yn 1934 cyflwynwyd y gyfrol ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), Aberystwyth, gan 3ydd Arglwydd Harlech ynghyd â detholiad o lawysgrifau Cymraeg o'i lyfrgell ym Mrogyntyn. Ym mis Mawrth 1993 fe brynwyd y llawysgrif gan LlGC oddi wrth 6ed Arglwydd Harlech.


Llawysgrif Wmffre Dafis

Am rhagor o wybodaeth neu ddelweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012