Wed, 17 Nov 10 17:08:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn wynebu colli miliwn o bunnoedd yn dilyn cyhoeddiad diweddar Cyllideb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r rhan helaeth o gyllid y Llyfrgell Genedlaethol yn dod yn uniongyrchol o Lywodraeth y Cynulliad. Bydd y Llyfrgell yn colli rhan sylweddol o'i chymorthdal dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i leihad yng nghyllideb y Cynulliad - gostyngiad o 4.2% yng nghyllideb refeniw canolog y Llyfrgell (11.7% yn cynnwys chwyddiant) a 38% o'i harian cyfalaf. Bydd y grant pwrcasu yn derbyn toriad llymach fyth, gydag 50% o'r gyllideb yn diflannu yn y flwyddyn gyntaf.
Mae'r grant pwrcasu wedi sefyll yn stond dros y deng mlynedd diwethaf, ar lefel o £611,000 y flwyddyn (ac wedi lleihau 20% yn ei werth mewn termau real dros y cyfnod hynny). Yn dilyn y gostyngiad hwn o 50%, o'r £305,000 sy’n weddill clustnodir tua £200,000 at dalu tanysgrifiadau parhaus i gyhoeddiadau analog ac ar-lein. Gadawa hyn ychydig dros £100,000 yn y gyllideb flynyddol.
“Pwrpas pennaf y grant pwrcasu yw prynu eitemau a chasgliadau sydd o wir werth i ymchwilwyr a dysgwyr,” yn ôl y Llyfrgellydd, Andrew Green. "O hyn ymlaen cyfyngir ar ein gallu i brynu nifer o lyfrau prin, archifau, ffotograffau a pheintiadau wrth iddynt ddod ar gael. O ganlyniad, byddwn yn colli sawl eitem o arwyddocâd a phwysigrwydd cenedlaethol," meddai.
Bydd y lleihad o 38% mewn cyllid cyfalaf yn cael effaith ddifrifol ar y Llyfrgell. O'r herwydd, bydd yn anos prynu'r offer sydd yn angenrheidiol i gynnal y casgliadau digidol cynyddol, a'r gwasanaethau gwybodaeth hynny sydd yn hanfodol i ddefnyddwyr o bell - cyfanswm o dros 1.6m o ddefnyddwyr gwahanol bob blwyddyn. At hyn, bydd cynnal a datblygu un o adeiladau mwyaf - a mwyaf eiconig - Cymru yn dod yn gynyddol anos.
"Mae'r Llyfrgell wedi bod yn cynllunio’n fanwl ac yn systematig ar gyfer lleihad mewn gwariant refeniw. Rydym wedi archwilio'n holl wariant, wedi lleihau ein costau ynni a chostau eraill, wedi cynyddu'n effeithlonrwydd ac wedi annog ein staff i fod yn hyblyg. Rydym hefyd wedi ymdrechu'n galed i godi a chreu incwm," yn ôl Mr Green.
Wrth grynhoi ymateb LlGC, daeth neges bositif, ond syber, gan Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell
"Er i niferoedd staff leihau, ac i ni golli peth arbenigedd, rydym yn ffyddiog yng ngallu’r Llyfrgell i gynnal ein gwasanaethau craidd ar gyfer ein darllenwyr a'n hymwelwyr yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Trwy weithio'n glyfrach, ac mewn ffyrdd mwy economegol ac ystwyth, y nod yw cynnal ein gwasanaethau heb effeithio'n andwyol ar ein cwsmeriaid – am gyfnod" meddai.
- Diwedd -
Nodiadau
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sefydliad diwylliannol unigryw a byw i holl bobol Cymru. Mae'n amddiffyn ac yn meithrin treftadaeth ddogfennol Cymru and yn annog bob math o addysgu ac ymchwil. Mae'n llyfrgell ymchwil heb ei hail, yn archif genedlaethol, yn gartref i gasgliadau sgrin a sain y wlad, yn oriel ac yn gasglwr celf a ffotograffiaeth ac yn storfa enfawr o wybodaeth ddigidol. Hyn oll ar gael, yn ddirwystr ac yn rhad ac am ddim, i bob oedolyn a phlentyn.
Yn wahanol i nifer o gyrff cyhoeddus eraill mae'r Llyfrgell wedi arfer â gwneud ar lai. Ni dderbyniwyd unrhyw gynnydd, y tu hwnt i chwyddiant, dros y pedair blynedd ddiwethaf. Y llynedd, bu'n rhaid cau'r adeilad i'r cyhoedd ar ddydd Sadyrnau, am gyfnod o 12 mis, o ganlyniad i leihad sydyn yn ein hincwm.
Yn fwy difrifol, bydd gostyngiadau un-ar-ben-y-llall dros y tair blynedd nesaf yn gostwng ansawdd y wybodaeth a'r gwasanaethau diwylliannol a gynigir i'n defnyddwyr. Mae Bwrdd y Llyfrgell eisoes wedi adolygu cyfres o opsiynau radical, all fod ag effaith ddifrifol iawn. Bydd toriadau dwfn pellach yn llesteirio datblygiadau newydd hanfodol, gan gynnwys ein gallu i fanteisio ar hawl cyfreithiol newydd i gasglu cyhoeddiadau electronig Cymru a'r DU. Yn waeth fyth, bydd toriadau pellach yn peryglu'n gallu i gynnal a chadw ac i gyfoethogi'r trysorau a ddelir gennym yn enw pobol Cymru.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sefydliad hir-dymor, fydd yn goroesi. Bydd ei pharhad yn ddibynol, fodd bynnag, ar gefnogaeth parhaus - yn bennaf o du'r Llywodraeth (gan na ellir bodoli hebddo), ond hefyd gyda chefnogaeth ariannol, ac fel arall, gan unigolion, ymddiriedolaethau, cwmniau ac eraill. Mae'r Llyfrgell yn ddiolchgar i'r sawl a roddodd o'u hamser a'u harbenigedd at ei gefnogi'n gweithgareddau eisoes, ac rydym yn gwahodd cyfraniadau ymarferol pellach oddi mewn y llywodraeth ei hun, neu gan sefyldiadau a chan unigolion, fyddai'n gynorthwy i un o sefydliadau mwyaf gwerthfawr ac unigryw Cymru yn y cyfnod anodd sydd ohoni.
Esiamplau o eitemau o bwysigrwydd cenedlaethol a brynwyd yn ddiweddar gyda’r Grant Pwrcasu yw:
· Llawysgrifau Dylan Thomas
· Hunan-bortread cynnar gan Kyffin Williams,
· Casgliad o lawysgrifau gan ac yn ymwneud ag Augustus John
Manylion Cyswllt:
Swyddfa’r Wasg 01970 632 534 / 902 post@llgc.org.uk