Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Dafydd Wigley yn cael ei ddyrchafu'n arglwydd.

Mon, 22 Nov 10 11:24:00

Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru longyfarch Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley, ar y cyhoeddiad ei fod am ei ddyrchafu'n arglwydd.

Daw’r newyddion fel cydnabyddiaeth am waith diflino Dafydd dros gyfnod o ddegawdau ar ran Cymru.

Estynnodd Llyfrgellydd y Llyfrgell, Andrew Green, ei gyfarchion cynhesaf.

'Rwy’n gwybod fy mod yn siarad ar ran holl aelodau’r Llyfrgell Genedlaethol wrth longyfarch Dafydd Wigley ar gael ei anrhydeddu'n arglwydd. Mae’n gydnabyddiaeth deilwng o'i gyfraniad enfawr i wleidyddiaeth Cymru ac i faterion amrywiol ym meysydd iechyd a thegwch rhyngwladol.

’Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi elwa'n fawr o'i arweiniad ysbrydoledig a'i ymdrechion diflino ar ein rhan fel Llywydd y Llyfrgell ers 2007 a gwyddom y bydd Cymru a Thŷ’r Arglwyddi’n elwa ymhellach yn y dyfodol o’r un angerdd, deallusrwydd ac egni.’

Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012