Mon, 06 Dec 10 16:06:00
Mae llawysgrif liwgar am hanes brwydrau Alecsander Fawr, un o ddynion enwocaf hanes, i’w gweld yn ei llawn ogoniant ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyma un o lawysgrifau canoloesol harddaf eu haddurn y Llyfrgell, ac mae’n enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol. Roedd stori boblogaidd bywyd Alecsander Fawr yn destun delfrydol ar gyfer y darlunydd canoloesol. Addurnwyd ymylon dail y testun yn hardd hefyd, a goreurwyd rhai prif lythrennau. Ysgrifennwyd y llawysgrif (a adnabyddir fel Peniarth 481D) ar femrwn yn niwedd y 15fed ganrif. Mae dwy ran i’r llawysgrif, ac mae’n debyg i’r ddwy ran gael eu rhwymo’n un gyfrol o’r cychwyn cyntaf, yn Lloegr yn ôl pob tebyg
Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llawysgrif gan Sais, a’i darlunio gan grefftwr o Fflandrys ac mae’n un o ddegau o lawysgrifau pwysig Cymreig a thramor sydd i’w gweld ar wefan Drych Digol y Llyfrgell. Mae i’r llawysgrif hon ddau destun, sef:
Cynghorion a diarhebion a ffurfiau gwerslyfr Lladin poblogaidd o’r enw Disticha Catonis (‘Cwpledi Cato’), gydag ychwanegiadau o aralleiriad Benedict Burgh mewn penillion rheiol Saesneg Canol; Testun Lladin yr Historia de preliis Alexandri Magni (‘Hanes Brwydrau Alecsander’), yn seiliedig ar gyfieithiad Lladin Leo o Napoli, a luniwyd yn y 12fed ganrif, o destun Groeg.
Ysgrifennwyd ac addurnwyd ail ran y llawysgrif yn ninas Cwlen (Köln), yn yr Almaen. Ceir ynddi destun yr Historia trium Regum (‘Hanes y Tri Brenin’), a ysgrifennwyd gan John o Hildesheim yn y 14eg ganrif, ac sy’n esbonio presenoldeb creiriau Tri Gŵr Doeth Efengyl Mathew yn ninas Cwlen.
Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd mewn cloriau pren wedi eu gorchuddio â melfed rhuddgoch, ac mae ar y cloriau hefyd foglymau efydd, gorchuddion i’r corneli, a phinnau a bachau ar gyfer careiau. Yn ôl pob tebyg, cafodd y llawysgrif ei rhwymo yn Lloegr yn niwedd y 15fed ganrif.
Gweld y llawysgrif digidol
Tudalen Drych Digidol LlGC sy’n cynnwys rhagor o lawysgrifau arlein
Gwybodaeth Bellach a Delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk