Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Penodiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mon, 20 Dec 10 12:04:00

Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi ailbenodiad dau Ymddiriedolwr, a phenodiad Ymddiriedolwr newydd i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Y ddau a ailbenodwyd yw Mrs Elspeth Mitcheson a Mr David Barker, a phenodwyd Mrs Tricia Carter am ei thymor cyntaf ar y Bwrdd.


 


Bu Elspeth Mitcheson yn Gyfarwyddwr Hamdden a Threftadaeth, Cyngor Sir Ynys Môn nes ymddeol yn 2000, gyda chyfrifoldeb rheolaethol, cyllidol a strategol ar gyfer pob adran o’r sector hamdden a threftadaeth. Mae wedi ymgymryd ag ystod eang o waith gwirfoddol a chymunedol ers ymddeol, gan gynnwys ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru [2005] ac ysgolion lleol. Mae Elspeth wedi ei phenodi’n asesydd annibynnol gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ers 2003. Mae hefyd yn aelod annibynnol o Bwyllgor Anrhydeddau [Cymuned, Gwirfoddol a Gwasanaethau Lleol] Swyddfa’r Cabinet, sydd yn swydd na chydnabyddir yn ariannol.


 


Mae David Barker bellach wedi ymddeol o’i swydd fel Rheolwr ar Wasanaeth Llyfrgell i Ysgolion Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae wedi bod yn aelod Pwyllgor Cenedlaethol o Grwpiau Llyfrgell Ieuenctid ac Ysgolion Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP), ac mae’n Drysorydd i CILIP Cymru. Mae David hefyd yn Gadeirydd ar Banel Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor. Bu’n aelod o Gyngor Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Gwybodaeth (Cymru) am chwe mlynedd, lle bu’n gadeirydd eu gweithgor ar lyfrgelloedd ysgol. Nid yw’n dal unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol eraill.


 


Daw Tricia Carter o gefndir busnes masnachol, fel uwch rheolwraig busnes a phrif cyfarwyddwraig bwrdd yn y diwydiant TGCh. Mae ganddi brofiad arbennig mewn datblygiad busnes newydd, cynllunio strategol a marchnata. Roedd yn gyfrifol am lansio sectorau busnes newydd, datblygu cynnyrch newydd i sefydliadau bychain a busnesau TGCh blaenllaw, gan gynnwys prosiectau yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Nid yw’n dal unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol eraill.


 


Mae Tricia Carter wedi gwasanaethu fel Is-Lywydd a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ac yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Moesegol Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac yn bresennol mae’n Gyfarwyddwraig Masnach Deg Cymru. Mae’n Aelod o’r Sefydliad Siartredig Marchnata ac hefyd yn Aelod o’r Sefydliad Materion Cymreig.


Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Rwy'n hynod falch  bod Mrs Elspeth Mitcheson a Mr David Barker, wedi cytuno i barhau fel ymddiriedolwyr am ail dymor ac yn croesawi'n fawr iawn penodiad Mrs Tricia Carter fel aelod newydd o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd eu sgiliau a'u profiad eang yn ychwanegiad gwerthfawr i sgiliau presennol y Bwrdd ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at  eu cyfraniad at waith y Bwrdd."


Dywedodd Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell:


“Mae ail-benodiad Elsbeth Mitcheson a David Barker, ynghyd â phenodiad Tricia Carter yn cwblhau tîm cryf o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae cyngor doeth yr Ymddiriedolwyr yn allweddol i lywio’r Llyfrgell trwy’r cyfnod heriol yma. Wrth groesawi’r penodiadau yma, hoffwn ddiolch i’r Ymddiriedolwyr i gyd am ei gwaith di-flino dros un o’n sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru sydd hefyd yn hyrwyddo Cymru a’i diwylliant ar lefel fyd-eang.”


Bydd ail dymor y ddau aelod yn cychwyn ar 1 Ionawr 2011 a bydd eu penodiadau’n para pedair mlynedd. Bydd tymor cyntaf Mrs Carter hefyd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2010 ac yn para pedair mlynedd. Nid yw Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd.


Gwybodaeth ychwanegol


Cefndir


Bwrdd y Llyfrgell yw Bwrdd annibynnol yr Ymddiriedolwyr, ac mae’n cadw casgliadau’r Llyfrgell mewn ymddiriedolaeth ar gyfer pobl Cymru ac yn rhoi cyfeiriad strategol i waith y Llyfrgell. Llywydd y Llyfrgell, sy’n cadeirio’r Bwrdd, yw’r Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley. Mae swyddogion penodedig eraill sydd ar y Bwrdd yn cynnwys yr Is-lywydd, Mr Arwel Ellis Owen, a’r Trysorydd, Mr Colin John.


 


Mae gofyn i Ymddiriedolwyr gyflawni dyletswyddau ymddiriedolwr elusen, fel y’u diffiniwyd a’u cyflwynwyd gan y Comisiwn Elusennol.


 


Dylai Ymddiriedolwyr hefyd wybod am yr ymrwymiadau arnynt sy’n codi yn sgil sefyllfa’r Llyfrgell fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r rhain wedi’u cyflwyno yn y Datganiad Rheoli a’r Memorandwm Ariannol, sy’n egluro’r Telerau a’r Amodau y mae’r Llyfrgell yn derbyn Arian gan y Cynulliad drwyddynt, ac sydd ar hyn o bryd yn destun adolygiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Llyfrgell.


 


Llyfrgell


Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru, a phrif ffynhonnell gwybodaeth a gofnodwyd y wlad. Mae’n gorff o fri rhyngwladol, ac mae’n cyfrannu at rwydwaith fyd-eang o ddarparwyr gwybodaeth. Mae’r Llyfrgell yn anarferol, os nad unigryw, ymysg llyfrgelloedd cenedlaethol o ran ei bod yn casglu ac yn rhoi mynediad i wybodaeth a gofnodwyd ym mhob cyfrwng bron â bod – llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, llawysgrifau ac archifau, mapiau, peintiadau, lluniau a phrintiau, ffotograffau, delweddau symudol a sain, a chyfryngau electronig. Mae’r Llyfrgell yn CNLC (sef Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad) a hefyd yn elusen gofrestredig sy’n gorfod bodloni Cyfraith Elusennau.


 


Mae strategaeth y Llyfrgell yn ceisio llywio llwybr ar gyfer datblygiad y Llyfrgell dros y tair blynedd 2008-2009 hyd at 2010-2011. Mae’n cynnig strategaeth sydd am ddiogelu gwaith hanfodol presennol y Llyfrgell, ar yr un pryd ag agor y potensial anferthol sydd gan y Llyfrgell i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, er budd cynulleidfaoedd ehangach a defnyddwyr newydd.


 


Mae’r Llyfrgell yn dibynnu’n bennaf ar Lywodraeth Cynulliad Cymru am ei chyllid, er ei bod hefyd yn denu arian o nifer o ffynonellau eraill gan gynnwys grantiau o gyrff eraill, cefnogaeth gan unigolion, incwm o’i gweithgarwch masnachu a’i chyllid elusennol ei hun.


 


Penodiadau i’r Bwrdd


Gwneir pob penodiad ar deilyngdod ac nid yw gweithgareddau gwleidyddol yn effeithio ar y broses penodi. Er hynny, yn unol ag argymhellion Nolan, mae’n angenrheidiol i gyhoeddi gweithgareddau gwleidyddol (os datganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol) y sawl y’u penodwyd. Ni ddatganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol gan yr ymgeiswyr a benodwyd. Gwnaethpwyd y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012