Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2011

Tue, 18 Jan 11 14:30:00

Archebwch eich tocynnau arlein ar gyfer digwyddiadau diwrnod agored y Llyfrgell, 29 Ionawr 2011


 


Eleni eto fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn agor ei drysau led y pen i wahodd pawb i ymuno yn ein Diwrnod Agored blynyddol ar ddydd Sadwrn 29 Ionawr. Mae’r diwrnod, sydd yn cynnwys darlithoedd, cyflwyniadau, teithiau tywys a sgyrsiau oriel, wedi profi’n hynod o lwyddiannus yn y gorffennol - ac ni fydd eleni’n eithriad.

Cynhelir nifer o weithgareddau trwy gydol y diwrnod a fydd yn sicr yn apelio at oedolion ac ymwelwyr ifanc. Ymysg y digwyddiadau ceir nifer o deithiau tywys o adrannau’r Llyfrgell. Bydd y teithiau tywys yn ymweld ag Uned Gadwraeth Ataliol, sydd yn sicrhau fod casgliadau’r Llyfrgell yn cael eu diogelu i safonau uchel, Uned Ddigido’r Llyfrgell ynghyd â chyfle i weld cyfarpar ailgylchu’r Llyfrgell.

Bydd hefyd nifer o ddarlithoedd a chyflwyniadau gan gynnwys:

  • Adnoddau Hanes Teulu yn y Llyfrgell Genedlaethol dan ofal Beryl Evans
  • Gweithdy Celf dan ofal Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell
  •  ‘Kyffin  - the Legacy’ Cyfwyniad am gasgliad Syr Kyffin Williams yn y Llyfrgell
  •  ‘Writing about the Real Wales’ Niall Griffiths a Peter Finch.
    Dau awdur teithio amlwg o Gymru yn mynegi eu barn am y Gymru gyfoes
  • Dadorchuddio portread David Griffiths o Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru
  • Amser Stori addas i blant dan 9 oed 
  • Sgwrs Oriel Byd Bach teithio yng Nghymru a Thu Hwnt. Carys Mai, curadur yr arddangosfa bwysig hon yn eich tywys ar daith lawn rhyfeddodau
  • Digwyddiad Cyfeillion y Llyfrgell 'Ledi Amy: gwerthfawrogiad o fywyd a gwaith Amy Parry Williams, 1910 - 1988. Dr Rhidian Griffiths.

Ceir nifer o ddigwyddiadau pellach yn ystod y diwrnod gan gynnwys Keith Rees, Amgueddfa Wlân Cymru yn dangos y grefft o nyddu gwlân; Adrian Keenan Cynorthwydd Lleihau Gwastraff y Cyngor Sir yn egluro ffyrdd o leihau gwastraff yn ein cartrefi; ynghyd â chyfle i ddysgu mwy am ddulliau cynaliadwy gyda’r Ganolfan Dechnoleg Amgen.



Mae pob un o’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim. Gallwch archebu eich tocynnau arlein: www.llgc.org.uk/drwm neu dros y ffôn 01970 632 548



Edrychwn ymlaen at eich croesawu! 



Manylion pellach:
Cyril Evans
cyril.evans@llgc.org.uk
01970 632 565



Swyddfa'r Wasg
Elin Hâf
elin.williams@llgc.org.uk 
01970 632 534


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012