Fri, 28 Jan 11 14:11:00
Cofnodir cyfraniad Rhodri Morgan i fywyd Cymru yn Niwrnod Agored y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 29 Ionawr pan ddadorchuddir portread arbennig ohono.
Y portread yn y Llyfrgell Genedlaethol yw’r ail bortread o’r cyn Brif Weinidog gan yr artist uchel ei barch, David Griffiths. Dadorchuddir y llun gan Rhodri Morgan ei hun mewn seremoni arbennig am 13.30 ddydd Sadwrn yn dilyn dadorchuddiad o’r portread arall yn y Senedd ar 26 Ionawr.
Mae’r portread a ddewiswyd i’w gadw yn y Llyfrgell yn dangos Mr Morgan yn eistedd wrth ei ddesg weinidogol yn y Cynulliad. Ar y llaw arall, mae’r llun a ddangosir yn y Senedd yn un mwy hamddenol ac yn ei ddarlunio gyda’i gi Labrador, William Tell, yng nghefn gwlad wrth ei gartref ger Caerdydd.
Ariannwyd portread y Cynulliad gan gydweithwyr Rhodri Morgan yn y Cynulliad a Senedd San Steffan, gan y gymuned fusnes a chwaraeon a gan unigolion ac aelodau undebau llafur.
Gwnaeth y gwaith arlunio yn nhŷ Rhodri Morgan ac yn stiwdio’r artist dros gyfnod o sawl mis y llynedd.
Y Dirprwy Lywydd, Rosemary Butler AC arweiniodd yr apêl gyhoeddus am arian ac meddai:
‘Mae Rhodri wedi chwarae rhan ganolog yn hanes y Gymru gyfoes a theimlai ei edmygwyr y byddai’n iawn cofnodi ei gyfraniad gyda phortread cyhoeddus. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ymateb i’r apêl ac rwy’n siŵr y bydd pobl yn hynod falch pan welant y portread.’
Ategodd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
‘Mae’r Llyfrgell yn gartref i sawl un o bortreadau David Griffiths o enwogion Cymru gan gynnwys Bryn Terfel, Gwynfor Evans a Syr Geraint Evans. Mae’n gymwys iawn fod llun cyn Brif Weinidog Cymru nawr yn rhan o’r casgliad pwysig yma’.
David Griffiths yw un o artistiaid portread dethol Prydain. Daeth i amlygrwydd wedi iddo ddarlunio Tywysog Cymru yn derbyn rhyddid Dinas Caerdydd ym mlwyddyn yr Arwisgiad yn 1969.
Meddai:
‘Roedd derbyn comisiwn i beintio portread Rhodri Morgan yn fraint fawr ac roeddwn wedi ymgolli yn ei storiâu a hanesion amrywiol. Roedd yn bleser ei bortreadu.’
Bydd y Portread i'w weld ym mhrif gyntedd y Llyfrgell rhwng 1af o Chwefror 2011 a'r 1af o Fawrth 2011.
Gwybodaeth Bellach:
David Griffiths: 029 20486866; www.david-griffiths.co.uk. dg at david-griffiths.co.uk
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC:: 01970 632902 post@llgc.org.uk
Joanna Hill, Swyddog y Wasg i David Griffiths: joanna.hill at yahoo.co.uk 07825 699642
Max Perkins, Swyddfa Rosemary Butler AC: Max.Perkins at wales.gov.uk 02920898528