Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Kyffin Williams: Y Wladfa

Wed, 02 Feb 11 15:01:00

 O 5 Chwefror 2011 hyd at 4 Medi 2011 bydd arddangosfa o waith Syr Kyffin Williams ar y Wladfa i’w weld yn Oriel Môn. Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol ar nos Wener, Chwefror 4, 2011 gan frodor o Batagonia, Elvey MacDonald.

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cipolwg ar dirlun a phobl y Wladfa gan Kyffin yn ystod ei ymweliad â Phatagonia ym 1968-1969 pan enillodd Gymrodoriaeth Winston Churchill i gofnodi disgynyddion y gwladychwyr Cymreig.Daw gweithiau’r arddangosfa o gasgliad yr Oriel, casgliadau preifat a chenedlaethol yn cynnwys canran fawr gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Ceir casgliad o weithiau pensil, inc, dyfrlliw ac olew yn amrywio o baentiadau a gweithiau mawr ar bapur i sgetys bach.  


 


Mae yma hefyd gyfle prin i weld rhai o’r ffotograffau a dynnwyd gan Kyffin ar ei gamera personol o gymeriadau’r Wladfa. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys rhai o eitemau personol Kyffin o’i ymweliad fel, teithlyfr, cerdyn glanio, a dau o docynnau cwmni hedfan ‘Aeroineas Argentinas’ ymysg pethau eraill.


 


Meddai Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden, Cyngor Sir Ynys Môn, y Cyng Bob Parry OBE:


 


'Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb, ac yn arbennig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi ein cynorthwyo i greu arddangosfa sy’n cofnodi yr amser a ddyweddod Kyffin oedd y mwyaf cyffous a chofiadwy o’i fywyd.’


 


Pan fu farw ym Medi 2006, gadawodd yr arlunydd Cymreig byd enwog, Syr Kyffin Williams, ran helaeth o’i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gymynrodd yn cwmpasu’r gweithiau a grewyd gan yr artist, ac yn eiddo iddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, ei brintiau, ei archifau, medalau, ynghyd â chasgliad bach o adar ac anifeiliaid mewn efydd.


 


Yng Ngwanwyn 2008 sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dechreuwyd ar y gwaith o gatalogio’r gweithiau celf a’r archifau yn ystod Haf 2008 a cychwynwyd ar raglen ddigido ddechrau Haf 2009.


 


Un elfen amlwg o Brosiect Cymynrodd Kyffin yw Blog Kyffin. Bwriad y blog hwn yw darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r catalogio ac agweddau eraill o'r prosiect, yn ogystal â chyfeirio at ambell eitem ddiddorol a ddaw i'r golwg wrth gatalogio.


 


Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru


 


'Mae’n fraint gan y Llyfrgell Genedlaethol i gydweithio ag Oriel Ynys Môn ar yr arddangosfa arbennig hon o waith Syr Kyffin Williams, ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio ar brosiectau cyffelyb yn y dyfodol agos.’


 


I gydfynd â’r arddangosfa cynhelir amryw o ddigwyddiadau yn Oriel Ynys Môn, ac ar 1 Gorffennaf 2011 bydd William Troughton, Llyfrgellydd Delweddau Gweledol Llyfgrell Genedlaethol Cymru yn trafod ‘Kyffin – the Photographer’


 


Ymysg y digwyddiadau eraill:


 


 Chwefror 18, 2011 am 7.00 yh
‘Patagonia: Kyffin’s Great Adventure’ – sgwrs gan David Meredith - awdur ‘Kyffin in Venice’ a ‘Kyffin Williams, Bro a Bywyd’.


 


Mawrth 25, 2011 am 7.00 yh
‘A Place of Meadows and Tall Trees’ – sgwrs gan yr awdures Clare Dudman am ei gwaith ymchwil i’w nofel sy’n olrhain hanes blynyddoedd cynnar y Cymry’n sefydlu ym Mhatagonia.


 


Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams


Blog Kyffin


www.kyffinwilliams.info


 


Manylion Pellach


Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012