Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Beth wisgai Cymraes 400 mlynedd yn ôl?

Fri, 18 Feb 11 14:27:00

Beth oedd ein cyn-neiniau’n wisgo pedair can mlynedd yn ôl? Gwyddom am ddillad y bonedd o’r amryw bortreadau ohonynt ond beth wisgai merched y werin bobl? Diolch i lawysgrif ddi-nod yr olwg ond gwerthfawr ei chynnwys o ardal Wicwer, Llanelwy yn Sir Ddinbych, yng nghasgliad y Llyfrgell, fe gawn gipolwg prin ar y pwnc diddorol yma.

Mae cofnodion cwta meistr o’r dillad a’r defnydd a roddodd i’r forwyn yn bwrw goleuni prin iawn ar ddillad merched tlawd pedwar can mlynedd yn ôl. Rhestr yw Llawysgrif NLW 12450E o daliadau gan Ieuan ap Rees ap David o Wicwer, Sir Ddinbych, i'w forwyn 'Ellin vawr' (Elin Fawr). 

Gwnaed llawer o'r taliadau iddi nid mewn arian ond mewn rhoddion o ddillad neu frethyn i wneud dillad. Cofnodir y prisiau a dalwyd gan Ieuan am y dillad a'r brethyn yn y rhestr. Mae'r rhestr fwyaf cynhwysfawr yn Gymraeg, ond rhestrir rhai o'r eitemau sydd ar y rhestr hon hefyd mewn rhestr fyrrach Saesneg.

Yn ôl nodyn ar ddechrau'r rhestr, mae'n gopi o'r rhestr wreiddiol a wnaed oherwydd achos llys lle'r oedd Ieuan ap Rees ap David yn ddiffynnydd ac Elin a George Gruff[ydd] ap D[avid] ap M[ered]edd yn achwynwyr. Ymddengys felly i'r rhestrau gael eu copïo wedi i Elin ymadael â'i swydd a phriodi.

Yr oedd Ieuan ap Rees ap David yn aelod o deulu bonheddig y Lloydiaid a bu ei fab, John Lloyd, yn gofiadur Dinbych. Bu farw Ieuan rywbryd tua 1600-1610.

Ymddengys fod Ieuan yn gyflogwr eithaf hael – gwnaed rhai eitemau o'i frethyn ei hun ac ni chodwyd tâl am y rhain. Mae'n ddiddorol nodi prisiau gwahanol eitemau, fel 3 ceiniog am bâr o fenig ac 8 swllt am het ffelt o Gaer. Gwnaed ffedogau a smociau o liain (linen) fel arfer ond siycryn (gwasgod fer) a pheisiau o frethyn neu wlanen. Yn ogystal â'r eitemau iwtilitaraidd fel peisiau a smociau, cyflenwyd Elin ag eitemau mwy addurniadol fel coleri a rhuban i ddal ei gwallt. Defnyddir llian ar gyfer crysau, ffedog neu ‘partlets’, tra bod siyrcyn neu beisiau wedi eu gwneud o ddefnydd neu wlanen. Gwnaeth sanau o wlân neu kersie (defnydd gwlân garw), gyda pheth o’r kersie wedi eu gwneud adre neu eu prynu ‘o’r dre’ (Llanelwy efallai?).
 
Mae’r fersiwn Gymraeg, sy’n fwy trwyadl na’r Saesneg, hefyd yn arbennig o ddiddorol. Gyda’i sillafu an-safonedig (defnydd o ‘k’ a ‘v’ ac yn aml v am y llythyren ‘u’) mae’n agor cil y drws ar dafodiaith Gymraeg yr ardal, ei chymeriadau a’i chymdeithaseg. Er gwybodaeth, roedd yn fwriad gan William Salesbury pan gyfieithodd y Testament Newydd yn 1667 defnyddio ‘k’ yn y Gymraeg. Ond gan i’r llyfr gael ei hargraffu yn Llundain yn defnyddio hynny o deipnodau oedd ar gael ar gyfer cyhoeddiadau Saesneg, fel nododd Salesbury, bu’n rhaid newid ei fwriad gan; ‘C for K, because the printers have not so many as the Welsh requireth’.

Gallwn ddychmygu bod ynghanol y stad yn gweld Ieuan ac Elin a’r ‘Tailiwr kloff’, ‘Richard y pedler’.

Gwelir hefyd fod yr hen arfer Gymraeg o enwi pobl ar ôl eu tad fod yn fyw o hyd yn y cylch - er, efallai mai dyma ymhlith y cenedlaethau olaf i arfer y traddodiad. Sonia’r llawysgrif am: ‘Am sane davedd iddi hi gen Sioned ach Sion’ (am sanau edafedd iddi gan Sioned ach Siôn) ac wrth gwrs enw Ieuan ap Rees ap David ei hun.


Dolenni:
Taliad i Forwyn

Erthygl gan Megan Ellis, Dress and dress materials for a serving maid, circa 1600 in National Library of Wales Journal vol.1 (winter 1939). 


Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012