Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gwnewch y Pethau Bychain!

Fri, 25 Feb 11 10:33:00

Dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 1 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. 

Ymysg y gweithgareddau ceir:

10.00 a.m.  - 12.30 p.m. Sesiwn Sganio ‘Casgliad y Werin Cymru’

Casgliad y Werin Cymru yw’r lle i ddarganfod a dysgu, cyfrannu'ch deunydd eich hun a rhannu hanes eich Cymru chi gyda’r byd.

Hoffem eich deunydd 2D (h.y. ffotograffau, llythyrau ac ati) sy'n ymwneud â Dydd Gŵyl Dewi; efallai llun ohonoch mewn gwisg Gymreig, eisteddfod ysgol neu lun o dwmpath dawns dydd Gŵyl Dewi. Fe fyddwn yn eu sganio ac yn eu hychwanegu i wefan Casgliad y Werin Cymru.  

12.30 – 1.30 p.m. Nest Jenkins yn canu’r delyn yn Cafe Pen Dinas

Ymlaciwch i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn Café Pen Dinas wrth fwynhau cawl cennin a bara brith.

Bydd hefyd gostyngiad 10% oddi ar nifer o eitemau yn y Siop. Felly, galwch draw am fargen!

Baner Dewi

Bydd i’r rhai craff ohonoch sylwi wrth yrru i fyny rhodfa’r Llyfrgell ar faner anghyfarwydd yn chwifio o dô’r Llyfrgell ar y diwrnod arbennig hwn. Baner nawddsant Cymru, Dewi Sant, fydd y faner o groes felen ar gefndir du, fydd yn chwifio dros adeilad y Llyfrgell ddydd Mawrth 1 Mawrth i ddathlu dydd ein nawddsant.


Gwybodaeth bellach:

Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk





Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012