Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Awr Ddaear WWF

Thu, 17 Mar 11 14:06:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cofrestru i gefnogi Awr Ddaear WWF am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae hyn wedi helpu Cymru i fod yn un o 130 o wledydd ar draws y byd ar amcangyfrif - nifer sy’n torri’r record - sydd wedi cofrestru ar gyfer y fenter fyd-eang i ddangos eu bod eisiau gweld gweithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.



Nos Sadwrn 26 Mawrth 2011 am 8.30pm
 bydd edrychiad Allt Penglais yn y dref yn newid wrth i’r Llyfrgell Genedlaethol ymuno â 30 o adeiladau a strwythurau ar draws Cymru a diffodd ei goleuadau i gefnogi Awr Ddaear WWF. Bydd rhain yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd a bydd cefnogwyr hirsefydlog yr ymgyrch, CADW, yn diffodd y goleuadau ar bum heneb ar draws Cymru gan gynnwys Castell Caernarfon ac Abaty Tyndyrn yn sir Fynwy. Bydd awdurdod lleol Abertawe yn diffodd y goleuadau ar Ganolfan Ddinesig y ddinas a bydd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn tywyllu unwaith eto i gefnogi gweithredu cryf yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. 


Gall siroedd fonitro eu cynnydd unigol ar fap rhyngweithiol newydd ar gyfer Awr Ddaear earthhourmap.wwf.org.uk
Wrth i fwy o bobl gofrestru i ddiffodd eu goleuadau, gallant weld sut mae eu hardal yn gwneud ac annog eu cyfeillion a’u teuluoedd i ymuno â nhw wrth helpu i sicrhau bod eu sir yn dod yn amlwg.

Gall ysgolion, cymunedau, sefydliadau ac unigolion gymryd rhan yn 2011 i ddangos eu bod yn cefnogi pobl a bywyd gwyllt y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu bygwth. 
Drwy gofrestru ar gyfer Awr y Ddaear mae pobl yn dangos i’r llywodraeth eu bod eisiau  gweld gweithredu i wneud cyflenwad ynni’r wlad yn lanach a lleihau’r effaith mae’n ei chael ar ein planed. 

Eisoes mae pobl o gwmpas y wlad yn trefnu digwyddiadau Awr y Ddaear, o bartïon cinio yng ngolau canhwyllau a diwrnodau ‘gwisgo lliwiau’ yn y gwaith i fflachdorfeydd yn dawnsio a gweithdai gwneud llusernau – nid yw’n fater o eistedd yn y tywyllwch am awr, ond o gael hwyl a gwneud 26 Mawrth yn noson i’w chofio! 

'Mae Awr Ddaear WWF yn gyfle sy’n ysbrydoli pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol i helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd,' 
meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru. 



'Rydym wrth ein bodd fod adeilad mor amlwg â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth wedi cytuno unwaith eto i ymuno ag Awr Ddaear WWF. Mae hyn yn dangos ei hymrwymiad i roi arweiniad ar y newid yn yr hinsawdd yn y gymuned a thrwy hyn annog eraill i fod yn rhan o ymgyrch ryngwladol i ddangos i arweinwyr yng Nghymru a’r byd fod pobl eisiau iddyn nhw fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.'



'Hoffwn annog pobl Aberystwyth ac mewn cymunedau ledled Cymru i ymuno trwy gofrestru eu cefnogaeth i’r ymgyrch ar lein ar www.wwf.org.uk/earthhourwales2011'

Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

'Mae cynaladwyedd amgylcheddol yn un o brif elfennau polisi’r Llyfrgell. Felly' mae’n fraint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn y digwyddiad arwyddocaol hwn, ac yn fwy nag addas y bydd un o adeiladau enwocaf ac amlycaf Cymru’n cael sylw mawr'

Sut bynnag y dewiswch gefnogi Awr Ddaear WWF mae’n hollbwysig i chi wneud i’ch cefnogaeth gyfrif, felly gwnewch yn siŵr y cofrestrwch ar wwf.org.uk/earthhourwales 



Nodiadau i olygyddion

WWF Cymru yw cangen Cymru o’r WWF Network, sefydliad amgylcheddol mwyaf blaenllaw’r byd a sefydlwyd yn 1961 ac sydd bellach yn weithredol mewn mwy na 100 o wledydd. 



Gwybodaeth bellach:
Kim Richards, WWF Cymru, ffôn: 029 2045 4972, symudol: 07920 211534, 
e-bost: krichards@wwf.org.uk



neu cysylltwch â Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 01970 632534 neu post@llgc.org.uk








Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012