Tue, 22 Mar 11 11:22:00
Bydd gwaith rhai o ffotograffwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn cael eu gweld mewn arddangosfa yn Oriel Mwldan, Aberteifi o 2 Ebrill 2011 – 14 Mai 2011.
Yn cynnwys gwaith gan ffotograffwyr Cymraeg o’r 19eg a’r 20fed ganrif megis John Thomas, D.C. Harries a Geoff Charles, mae’r arddangosfa hon yn rhoi blas o fywyd amaethyddol. Mae arddangosfa wedi cael ei benthyg yn gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ble mae tua 800,000 o ffotograffau yn rhan o’i chasgliad.
Ystyrir Cymru yn un o'r gwledydd prydferthaf yn y byd gyda'i chyfuniad trawiadol o ddyffrynnoedd llonydd a mynyddoedd cadarn. Gyda chanrifoedd o amaethu'r tir yn rhan sylfaenol o hanes Cymru, nid oes amheuaeth ei fod wedi dylanwadu'n gryf ar yr unigolion ac weithiau ar y tir, ar y cymunedau a'r diwylliant Cymreig.
Ymysg y lluniau ceir llun gan Geoff Charles o Margaret Jones yn bwydo oen llywaeth; rhes o dractorau gan P.B.Abery; a llun gan D.C Harries o ddyn ar beiriant torri gwair.
Meddai Oriel Mwldan:
‘Mae hyn yn gyfle gwych i bobl leol weld casgliad unigryw o brintiau hanesyddol. Mae’r casgliad yn darlunio hanes cyfoethog amaethyddiaeth yn ogystal â threftadaeth ddiwylliannol ein hardal’
Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i roi mynediad i’w chasgliadau a hynny drwy ddangos ein archifau mewn lleoliadau eraill. Fel rhan o’n cynllun estyn allan, rydym yn mynd a’n harddangosfeydd ac eitemau unigol i leoliadau eraill gan weithio weithiau mewn partneriaeth â grwpiau lleol ac ysgolion.’
Mae’r lluniau sydd i’w gweld yn Oriel Mwldan wedi ysbrydoli Richard Higglett a Leona Jones, Ysgol Celfyddydau Gorllewin Cymru a byddent yn dangos eu gweithiau celf mewn ymateb i’r arddangosfa. Bydd ‘Song at the Years’ Transforming’ i’w weld rhwng y 7 Ebrill ar 13 Mai yn y Galeri, Coleg Sir Gâr.
Gwybodaeth bellach a lluniau:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk
Byw ar y Tir
Oriel Mwldan, Aberteifi
2 Ebrill – 14 Mai 2011
Dydd Llun – Dydd Sul 10.00 a.m – 8.00 p.m.