Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Etholiad Cymru - Galw Pobl Llanelli ac Islwyn

Mon, 04 Apr 11 16:26:00

Mae’n adeg etholiadol yng Nghymru gydag etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai. Eleni, fel pob cyfnod etholiadol arall, bydd yr Archif Wleidyddol Gymreig, sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol, yn mynd ati i gasglu set gyflawn o'r taflenni a'r effemera a gylchredir.  Serch hynny, mae’r Archif angen eich help.

Esboniad John Graham Jones, Pennaeth yr Archif,

‘Mae gennym rwydwaith eang o gysylltwyr ledled Cymru, ond mae bylchau wedi amlygu eu hunain o fewn yr etholaethau Islwyn a Llanelli. Tybed a oes pobl yn y rhanbarthau hynny a fyddai'n barod i gasglu ac yna danfon atom y deunydd hynny a ddaw drwy eu drysau yn ystod yr ymgyrch?’ 

Os wyddoch chi am rywrai gallai helpu, mae croeso i chi gysylltu â John Graham ar y cyfeiriad isod. Telir costau postio gan y Llyfrgell.

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983. Mae’n casglu llenyddiaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru a grwpiau ymgyrchu yn ogystal â gohebiaeth gan rai o’r ffigyrau gwleidyddol mwyaf o David Lloyd George ymlaen.

Dolenni:

Yr Archif Wleidyddol Gymreig 



Gwefan Ymgyrchu! – ymgyrchoedd gwleidyddol Cymru yn yr ugeinfed ganrif



Manylion Cyswllt:

John Graham Jones, Pennaeth AWG:
01970 632866  graham.jones@llgc.org.uk 

Elin-Hâf Willians, Swyddfa’r Wasg LlGC: 
01970 632534   post@llgc.org.uk 



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012